II. Corinthiaid 10 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A myfi fy hun, Paul, a attolygaf i chwi trwy addfwynder a hynawsedd Crist, yr hwn “yn eich gwydd yn wir wyf ostyngedig yn eich plith; ond pan yn absennol, yn hyderus tuag attoch;”

2a dymunaf na bo i mi, pan yn bresennol, fod yn hyderus â’r ymddiried â’r hwn yr wyf yn meddwl bod yn eofn yn erbyn rhai y sydd yn ein cyfrif ni megis yn rhodio yn ol y cnawd;

3canys tra yn y cnawd y rhodiwn, nid yn ol y cnawd yr ym yn milwrio,

4(canys arfau ein milwriaeth, nid cnawdol ydynt, eithr galluog,

5trwy Dduw, er bwrw i lawr gestyll,) gan fwrw i lawr ddychymmygion a phob uchelder y sy’n ymddyrchafu yn erbyn gwybodaeth am Dduw, ac yn caethiwo pob meddwl i ufudd-dod i Grist;

6ac yn barod i ddial ar bob anufudd-dod pan gyflawner eich ufudd-dod chwi.

7Ar y pethau yn eich gwydd yr edrychwch. Os yw neb yn ymddiried ynddo ei hun, ei fod yn eiddo Crist, meddylied hyn etto ynddo ei hun, mai fel y mae efe yn eiddo Crist, felly yr ydym ninnau hefyd.

8Canys ped ymffrostiwn rywfaint helaethach am ein hawdurdod, (yr hon a roddodd yr Arglwydd er adeiladu, ac nid er eich bwrw i lawr,)

9ni chywilyddir fi, fel nad edrychwyf fel y dychrynwn chwi trwy fy llythyrau.

10Ei lythyrau, meddant, ydynt drymion a chryfion, ond presennoldeb y corph sydd wan, a’r ymadrodd yn ddirmygadwy.

11Hyn meddylied y cyfryw ddyn mai y fath ydym mewn ymadrodd, trwy lythyrau, pan yn absennol, yr un fath hefyd a fyddwn ar weithred pan yn bresennol.

12Canys nid ydym yn beiddio cyfrif, neu gymharu, ein hunain â’r rhai sydd yn eu canmol eu hunain; eithr hwynt-hwy, gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a’u cymharu eu hunain â’u hunain, heb ddeall y maent.

13Ond nyni, nid hyd at bethau allan o’n mesur yr ymffrostiwn, eithr yn ol mesur y llinell a rannodd Duw i ni megis mesur, i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd:

14canys nid fel heb gyrhaeddyd hyd attoch, yr estynwn ein hunain dros fesur; canys hyd attoch chwi hefyd y daethom yn Efengyl Crist;

15nid gan ymffrostio hyd at bethau allan o’n mesur yn llafur rhai eraill; ond a chenym obaith, wrth gynnyddu o’ch ffydd, o gael ein mawrygu ynoch chwi yn ol ein llinell hyd helaethrwydd:

16i efengylu i’r parthau tu hwnt i chwi, ac nid i ymffrostio yn llinell un arall am y pethau parod eisioes.

17Ond yr hwn sy’n ymffrostio, yn yr Arglwydd ymffrostied;

18canys nid yr hwn sydd yn canmol ei hun sydd gymmeradwy, eithr yr hwn y mae’r Arglwydd yn ei ganmol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help