S. Luc 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wedi galw y deuddeg ynghyd, rhoddes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau;

2a danfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau y cleifion: a dywedodd wrthynt,

3Na chymmerwch ddim i’r daith, na ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fyddwch a dwy bais genych.

4Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yno arhoswch, ac oddi yno ewch allan.

5A chynnifer ag na’ch derbyniant, wrth fyned allan o’r ddinas honno, y llwch ysgydwch ymaith oddiwrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn.

6A chan fyned allan yr aethant trwy’r pentrefi, gan efengylu ac iachau ym mhob lle.

7A chlywodd Herod y Tetrarch yr holl bethau a ddigwyddent, a phetrusai o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw;

8a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd.

9A dywedodd Herod, Ioan, myfi a dorrais ei ben; ond pwy yw hwn, am yr hwn y clywaf y fath bethau? A cheisiai ei weled Ef.

10Ac wedi dychwelyd, yr apostolion a fynegasant Iddo faint o bethau a wnaethent. Ac wedi eu cymmeryd Atto, ciliodd o’r neilldu i ddinas a elwir Bethtsaida.

11A’r torfeydd, gan wybod hyn, a’i canlynasant Ef; ac wedi eu derbyn, llefarodd wrthynt am deyrnas Dduw; ac y rhai ag arnynt eisiau eu hiachau, a iachaodd Efe.

12A’r dydd a ddechreuodd hwyrhau; ac wedi dyfod Atto, y deuddeg a ddywedasant Wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel wedi myned i’r pentrefi oddi amgylch, ac i’r wlad, y llettyont ac y caffont fwyd, canys yma, mewn lle anial yr ydym.

13A dywedodd Efe wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwytta. A hwy a ddywedasant, Nid oes genym fwy na phum torth a dau bysgodyn, onid awn ni a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn,

14canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. A dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt led-orwedd yn finteioedd o ynghylch deg a deugain bob un.

15A gwnaethant felly, a pharasant iddynt oll led-orwedd.

16Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fynu i’r nef bendithiodd hwynt, a thorrodd, a rhoddodd i’w ddisgyblion i osod ger bron y dyrfa.

17A bwyttasant, a digonwyd hwy oll; a chymmerwyd i fynu yr hyn oedd dros ben iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.

18A bu pan yr oedd Efe yn gweddïo o’r neilldu, yr oedd Ei ddisgyblion gydag Ef; a gofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y dywaid y torfeydd Fy mod I?

19A hwy, gan atteb, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill, Elias; ac eraill, mai prophwyd, un o’r rhai gynt, a adgyfododd.

20A dywedodd Efe wrthynt, A chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I? A chan atteb, Petr a ddywedodd, Crist Duw.

21Ac Efe, gan ddwrdio, a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb,

22gan ddywedyd, Y mae rhaid i Fab y Dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ac Ei ladd, ac ar y trydydd dydd adgyfodi.

23A dywedodd wrth bawb, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned Fi;

24canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o’m hachos I, hwnw a’i ceidw.

25Canys pa beth y lleseir dyn wedi ennill y byd oll, ond a chydag ef ei hun wedi myned ar goll neu yn ddirwy?

26Canys pwy bynnag fo ag arno gywilydd o Myfi a’m geiriau,

O hono ef y bydd gan Fab y Dyn gywilydd

Pan ddelo yn Ei ogoniant Ei hun

Ac yngogoniant y Tad a’r sanctaidd angylion.

27A dywedaf wrthych yn wir, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau nes gweled o honynt deyrnas Dduw.

28A bu, ar ol y geiriau hyn, ynghylch wyth niwrnod wedi’n, wedi cymmeryd Atto Petr ac Ioan ac Iago, yr aeth i fynu i’r mynydd i weddïo.

29Ac wrth weddïo o Hono yr aeth gwedd Ei wyneb yn arall, ac Ei wisg yn wen-felltenaidd.

30Ac wele, dau ŵr a gydymddiddanent ag Ef, y rhai oeddynt Mosheh ac Elias;

31y rhai gan ymddangos mewn gogoniant, a lefarent am Ei ymadawiad yr hwn yr oedd Efe ar fedr ei gyflawni yn Ierwshalem.

32A Petr a’r rhai gydag ef oeddynt wedi eu trymhau gan gwsg; ond wedi dihuno gwelsant Ei ogoniant a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag Ef.

33A bu, wrth ymddidoli o honynt oddiwrtho Ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, Athraw, ardderchog yw bod o honom yma; a gwnawn dair pabell, un i Ti; ac i Mosheh un; ac un i Elias, heb wybod pa beth a ddywedodd.

34Ac efe yn dywedyd y geiriau hyn, bu cwmmwl a chysgododd hwynt; a dychrynwyd hwy wrth fyned o honynt i mewn i’r cwmmwl;

35a llais fu o’r cwmmwl yn dywedyd,

Hwn yw Fy Mab dewisedig; arno Ef gwrandewch.

36Ac wedi bod y llais, cafwyd yr Iesu ar Ei ben Ei hun. A hwy a dawsant, ac wrth neb ni fynegasant, yn y dyddiau hyny, ddim o’r pethau a welsant.

37A bu drannoeth, wedi dyfod o honynt i wared o’r mynydd, y cyfarfu ag Ef dyrfa fawr.

38Ac wele, gŵr, o’r dyrfa, a ddolefodd gan ddywedyd, Athraw, attolygaf i Ti edrych ar fy mab, canys unig-anedig yw i mi;

39ac wele, yspryd a’i cymmer ef, ac yn ddisymmwth y gwaedda: a dryllio ef y mae ynghyda bwrw ewyn; a braidd y cilia oddiwrtho ar ol ei ysigo ef.

40Ac attolygais i’th ddisgyblion ei fwrw ef allan, ond ni allasant.

41A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd, O genhedlaeth ddi-ffydd a throfaus, hyd ba bryd y byddaf gyda chwi, ac y’ch goddefaf? Tyred yma â’th fab.

42Ac efe etto yn dyfod, rhwygodd y cythraul ef, ac y’i drylliodd. A dwrdiodd yr Iesu yr yspryd aflan; ac iachaodd y bachgen, a rhoddes ef i’w dad.

43A bu aruthr gan bawb o herwydd mawredd Duw.

Ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaeth Efe,

44dywedodd wrth Ei ddisgyblion, Gosodwch chwi yn eich clustiau y geiriau hyn, Y mae Mab y Dyn ar fedr Ei draddodi i ddwylaw dynion.

45A hwy ni wybuant yr ymadrodd hwn, ac yn orchuddiedig oedd oddi wrthynt, fel na ddeallent ef; ac ofnasant ofyn Iddo am yr ymadrodd hwn.

46A daeth ymresymmiad yn eu plith, pwy a fyddai fwyaf o honynt.

47A’r Iesu, gan weled ymresymmiad eu calon, wedi cymmeryd bachgenyn, a’i gosododd ef yn Ei ymyl,

48a dywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbynio y bachgenyn hwn yn Fy enw, Myfi a dderbyn efe; a phwy bynnag a’m derbynio I, derbyn y mae yr Hwn a’m danfonodd; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, efe sydd fawr.

49A chan atteb, Ioan a ddywedodd, O Feistr, gwelsom ryw un oedd yn Dy enw Di yn bwrw allan gythreuliaid, a rhwystrasom ef, gan nad yw yn canlyn gyda ni.

50Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Na rwystrwch, canys y neb nad yw i’ch erbyn, trosoch y mae.

51A bu wrth gyflawni dyddiau Ei gymmeryd i fynu,

52ac Efe a gadarn-osododd Ei wyneb i fyned i Ierwshalem, a danfonodd genhadau o flaen Ei wyneb; ac wedi myned o honynt, aethant i mewn i bentref o Shamariaid, i barottoi Iddo.

53Ac ni dderbyniasant Ef, gan fod Ei wyneb ar fyned i Ierwshalem.

54A chan weled hyn, Ei ddisgyblion Iago ac Ioan a ddywedasant, Arglwydd, a ewyllysi Di ddywedyd o honom am i dân ddyfod i lawr o’r nef a’u difa hwynt?

55Ac wedi troi, dwrdiodd hwynt:

56ac aethant i bentref arall.

57Ac wrth fyned o honynt, ar y ffordd y dywedodd rhywun Wrtho, Canlynaf Di i ba le bynnag yr elych.

58Ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Y llwynogod sydd a ffauau ganddynt, ac ehediaid y nef a llettyau ganddynt; ond gan Fab y Dyn nid oes lle y rhoddo Ei ben i lawr.

59A dywedodd wrth un arall, Canlyn Fi. Ac efe a ddywedodd, Arglwydd, gad i mi, wedi myned ymaith,

60yn gyntaf gladdu fy nhad: a dywedodd wrtho, Gad i’r meirwon gladdu eu meirw eu hun; a thydi wedi myned ymaith, cyhoedda deyrnas Dduw.

61A dywedodd un arall hefyd, Canlynaf Di, Arglwydd; ond yn gyntaf, caniatta i mi ganu yn iach i’r rhai sydd gartref:

62ac wrtho y dywedodd yr Iesu, Nid oes neb wedi rhoi ei law ar yr aradr ac yn edrych yn ei ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help