Psalmau 25 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXV.

1(Psalm) o eiddo Dafydd.

Attat Ti, O Iehofah,

Fy enaid a ddyrchafaf, O fy Nuw;

2Ynot Ti yr ymddiriedaf; na’m cywilyddier!

Na orfoledded fy ngelynion arnaf!

3Ië, yr holl rai a obeithiont ynot Ti ni chywilyddir;

Cywilyddir y gwrthgilwyr dïachos:

4Dy ffyrdd Di, O Iehofah, par i mi eu gwybod,

Dy lwybrau dysg Di i mi;

5Hyffordda fi yn Dy wirionedd, a dysg fi,

Canys Tydi (wyt) Dduw fy iachawdwriaeth,

Ynot Ti y gobeithiais bob dydd;

6Cofia Dy dosturiaethau, O Iehofah, a’th radlondeb,

—Mai o dragywyddoldeb (y maent) hwy,—

7Pechodau fy ieuengctid a’m camweddau na chofia!

Yn ol Dy radlondeb cofia Dydi fi,

O herwydd Dy ddaioni, O Iehofah!

8Da ac uniawn (yw) Iehofah,

Gan hynny y dysg Efe i bechaduriaid y ffordd;

9Hyffordda Efe y llariaidd rai, yn yr hyn sydd iawn,

A dysg i’r llariaidd rai Ei ffordd.

10Holl lwybrau Iehofah (ŷnt) radlondeb a gwirionedd,

I’r rhai a gadwont Ei gyfammod a’i gynerithiau.

11Er mwyn Dy enw, O Iehofah,

Maddeu fy nrygioni; canys mawr (yw) hwnnw!

12Pwy (yw) efe—y dyn sy’n ofni Iehofah?

—Fe ddysg Efe iddo y ffordd a ddewiso;

13Efe ei hun, mewn daioni y trig,

A’i had a etifedda ’r ddaear.

14Cyfrinach Iehofah (sydd) gyda ’r rhai a’i hofnont Ef,

A’i gyfammod (sydd) i’w haddysgu hwynt.

15Fy llygaid (ŷnt) beunydd ar Iehofah,

Canys Efe sy’n dwyn fy nhraed allan o’r rhwyd.

16Tro attaf, a bydd radlon wrthyf,

Canys unig a chystuddiol myfi (ydwyf)!

17Cyfyngderau fy nghalon, ehanga hwynt,

Ac allan o’m gwasgfëydd dwg Di fi!

18Edrych ar fy nghystudd a’m helbul,

A maddeu fy holl bechodau!

19Gwel fy ngelynion mor aml y maent,

Ac â chasineb treisig eu bod yn fy nghashâu!

20Cadw fy enaid ac achub fi;

Na’m cywilyddier, canys ymddiried yr wyf ynot Ti!

21Bydded i ddiniweidrwydd ac uniondeb fy ngwarchae,

Canys gobeithio yr wyf ynot Ti!

22Dyro, O Iehofah, ryddhâd i Israel

Allan o’i holl gyfyngderau!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help