1
Yn ddauddyblyg am ei holl bechodau.
3Llef (sydd) yn llefain,
Yn yr anialwch parottôwch ffordd Iehofah,
Unionwch yn y diffaethwch brif-ffordd i’n Duw ni.
4Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir,
A bydd y gŵyr yn uniawn, a’r anwastad-leodd yn wastadedd,
5A datguddir gogoniant Iehofa;
A gwêl pob cnawd ynghŷd iachawdwriaeth Duw,
Canys genau Iehofah a’i llefarodd.
6Llef a ddywedodd, Gwaedda. A dywedais, Beth a waeddaf?
Pob cnawd (sydd) wellt, a i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes,
7Gwywa’r gwelltyn, diflanna’r blodeuyn,
Am i wỳnt Iehofah chwŷthu arno.
Yn ddïau gwellt (yw) ’r bobl.
8Gwywa ’r gwelltyn, diflanna ’r blodeuyn,
Ond gair ein Duw ni a saif yn dragywydd.
9Ar fynydd uchel dring rhagot, efangyles Tsïon,
Dyrchafa yn nerthol dy lef, efangyles Ierwshalem,
Dyrchafa, nac ofna,
Dywed wrth ddinasoedd Iwdah, Wele eich Duw chwi.
10Wele yr Arglwydd Iehofah, yn erbyn y cadarn y daw Efe,
A’i fraich a lywodraetha drosto.
Wele Ei wobr gydag Ef, a thâl am Ei waith o’i flaen Ef.
11Fel bugail, Ei braidd a fugeilia Efe,
Yn Ei fraich y casgl Efe yr ŵyn,
Ac yn Ei fynwes y dwg Efe (hwynt;)
Y mammogiaid a arwain Efe yn araf.
12Pwy a fesurodd y 2dyfroedd yn 『1ngledr ei』 law,
A’r nefoedd â’i rychwant a fesurodd,
Ac a gynnwysodd mewn llestraid lwch y ddaear,
Ac a bwysodd â phwyslath y mynyddoedd,
A’r bryniau mewn cloriannau?
13Pwy a gyfarwyddodd yspryd Iehofah,
Ac yn wr o’i gynghor a’i haddysgodd ef?
14Â phwy yr ymgynghorodd Efe, ac yntau a’i hyfforddodd Ef,
Ac a’i dysgodd Ef yn llwybr barn,
Ac a ddysgodd iddo wybodaeth,
Ac a 3ddangosodd iddo 1ffordd 2dealltwriaeth?
15Wele, y cenhedloedd (sydd) fel defnyn o gelwrn,
Ac fel mânlwch y cloriannau y cyfrifir hwynt,
Wele, yr ynysoedd, fel mymryn Efe a’u cwyd.
16A Lebanon, nid digon yn bentwr tân,
A’i fwystfilod nid digon yn boeth-offrwm.
17Yr holl genhedloedd (sydd) megis diddim ger Ei fron Ef,
Yn llai na dim, ac yn wagedd, y cyfrifir hwynt ganddo.
18Gan hynny i bwy y cyffelybwch Dduw?
A pha gyffelybiaeth a gystedlwch âg Ef?
19Y ddelw a dawdd crefftwr,
A’r gôf âg aur a’i gwisg hi,
A chadwyni arian a dawdd efe.
20Y tlawd ei offrwm, pren na phydra a ddewis efe,
Saer cywraint a gais efe atto,
I osod delw na syfl.
21Oni wyddoch? oni chlywsoch?
Oni fynegwyd o’r dechreuad i chwi?
Oni ddeallasoch er seiliad y ddaear?
22Yr Hwn sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear,
A’i thrigolion (sydd) fel locustiaid;
Yr Hwn a daena ’r 2nefoedd 『1fel llen,』
Ac a’i lleda fel pabell i drigo (ynddi);
23Yr Hwn a wna dywysogion yn ddiddym,
(A) barnwŷr y ddaear yn wagedd;
24Ië, ni chant blannu, nis hêuir hwynt,
Ni wreiddia yn y ddaear eu boncyff;
Os hyd y nod chwythu a wna Efe arnynt, hwy a wywant,
A chorwỳnt a’u 『1dwg hwynt ymaith』 『2fel sofl.』
25Gan hynny i bwy y’m cyffelybwch
Ac y byddaf debyg iddo, medd Y Sanct?
26Dyrchefwch yn uchel eich llygaid
Ac edrychwch. Pwy a greodd y (ser) hyn?
Gan ddwyn allan eu 2llu hwynt 『1mewn rhifedi,』
Hwy oll wrth eu henwau a eilw Efe;
Gan amlder grym a chadernid (Ei) allu,
Nid un (o honynt) a absennola.
27Paham y dywedi, Iacob,
Ac y lleferi, Israel,
“Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth Iehofah,
Ac oddi wrth fy Nuw fy marn a aeth heibio?”
28Oni wyddost, oni chlywaist?
Duw tragywyddol (yw) Iehofah,
Yr Hwn a greodd gyrrau ’r ddaear:
Ni ddiffygia ac ni flina Efe,
Nid oes chwilio allan Ei ddoethineb Ef.
29Efe a rydd i’r diffygiol nerth,
Ac i’r dirym cryfder a amlhâ Efe:
30Ond diffygio a wna ’r ieuaingc a blino,
A’r ieuaingc dewisedig gan dramgwyddo a dramgwyddant:
31Eithr y rhai a obeithiant yn Iehofah a adnewyddant nerth,
Tyfant blu (newydd) fel eryrod;
Hwy a redant ac ni flinant,
Rhodiant ac ni ddiffygiant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.