Iöb 5 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

V.

1 Galw yn awr! A oes a ’th ettyb?

Ac at bwy o’r rhai sanctaidd y tröi di?

2(Nage!) ond yr ynfyd a ladd gofid,

A’r annoeth a ddïeneidia digllondeb:

3Myfi a welais yr ynfyd yn gwreiddio,

A melldithiais ei drigfa ef yn ebrwydd;

4Pell yw ei feibion ef oddi wrth iachawdwriaeth,

Briwiwyd hwynt yn y porth ac nid (oedd) achubydd;

5Yr hwn, ei gynhauaf ef y mae ’r newynog yn ei fwytta,

Allan o’r drain y cymmer efe ef;

A’r sychedig a drachwanta am eu cyfoeth;

6 Canys nid dyfod o’r llwch y mae cystudd,

Ac nid o’r ddaear y blagura trallod;

7 Ond dyn i drallod a enir,

Fel y bydd gwreichion yn ehedeg i’r uchelder.

8 Etto myfi a ymgyrchwn at Dduw,

Ac ar yr Arglwydd y rhoddwn fy achos,

9Yr Hwn sy’n gwneuthur pethau mawrion hyd nad (oes eu) chwilio,

Pethau rhyfeddol hyd nad (oes eu) rhifo;

10Yr Hwn sy’n rhoddi gwlaw ar wyneb y ddaear,

Ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y porfëydd;

11Gan osod y rhai isel mewn uchelder,

A’r galarus sy’n cael uchel iachawdwriaeth;

12Yr Hwn sy’n chwilfriwio amcanion y rhai call,

Fel na wnelo eu dwylaw hwynt eu bwriad;

13Yr Hwn sy’n dal y doethion yn eu callineb,

A chynghor yr hocedus a wneir yn fyrbwyll;

14Lliw dydd y cyfarfyddant hwy â thywyllwch,

Ac, fel (ped fai) nos, y palfalant ar hanner dydd;

15Felly, Efe a weryd y difrodedig o’u safn hwynt,

Ac o law’r cadarn, yr anghenog,

16Ac y mae gan y tlawd obaith,

Ac anwiredd sy’n cau ei safn:

17Wele, gwỳn ei fyd y dyn a argyhoeddo Duw,

Am hynny, cerydd yr Hollalluog na wrthod di,

18Canys Efe a glwyfa ac a rwyma,

Efe a dery, a’i ddwylaw Ef a iachânt;

19 Mewn chwech o gyfyngderau Efe a’th weryd,

Ac mewn saith ni chaiff drwg gyffwrdd â thi;

20Mewn newyn Efe a’th weryd rhag marwolaeth,

Ac mewn rhyfel rhag llaw’r cleddyf;

21Pan ffrewyllio tafod, ti a guddir,

Ac ni chei ofni rhag y dinystriad, pan ddelo;

22Ar y dinystriad a’r newyn y chwerddi,

A rhag bwystfilod y maes nid ofni,

23 Canys â cherrig y maes (y bydd) cynghrair i ti,

A bwystfilod y maes a fyddant yn heddychol â thi;

24A chei brofi mai heddwch (fydd) dy annedd,

Ac adolygi dy borfa ac ni chenfyddi goll;

25A phrofi mai aml dy hâd,

A’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear;

26Ti a ddeui mewn oedran addfed i’r bedd,

Fel yr esgyn ysgafn o ŷd yn ei amser.

27Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly (y mae) hi;

Gwrando hyn; a thydi, derbyn i’th dy hun wybodaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help