Psalmau 140 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CXL.

1I’r blaengeiniad. Psalm. Eiddo Dafydd.

2Rhyddha fi, O Iehofah, oddi wrth y dyn drwg,

Rhag y gwr treisig gwared fi!

3Y rhai a fwriadasant ddrygau yn (eu) calon,

Pob dydd y cyffröant ryfel,

4Llymhânt eu tafodau fel sarph,

Gwenwyn yr asp (sydd) dan eu gwefusau! Selah.

5Cadw fi, O Iehofah, rhag dwylaw ’r annuwiol,

Rhag y gwr treisig gwared fi!

Y rhai a fwriadasant wthio fy nghamrau:

6Cuddiodd y beilchion fagl i mi, a bachellau,

Taenasant rwyd ar ymyl y llwybr,

Hoenynnau a osodasant hwy i mi!

7 Dywedais wrth Iehofah, Fy Nuw Tydi (ydwyt),

Dyro glust, O Iehofah, i lef fy ymbiliau!

8Iehofah yr Arglwydd, Nerth fy iachawdwriaeth,

Gorchudd fuost i’m pen yn nydd y frwydr!

9Na chaniattâ, O Iehofah, ddymuniadau ’r annuwiol,

Ei fwriad na lwydda,—(na) ddyrchafer hwynt! Selah.

10Pen y rhai a’m hamgylchynant—

Blinder eu gwefusau a’u gorchuddio!

11Disgyned arnynt farwor;

Mewn tân y gwnaed Efe iddynt syrthio,

(Ac) mewn llif-ddyfroedd, fel na chyfodont!

12Gwr enllibus ni sefydlir ar y ddaear;

Y gwr treisig, drwg a’i hela i(’w) gwymp!

13Gwn y gweithia allan Iehofah ddadl y truan,

(Ac) achos y digymmorth rai!

14Yn ddïau y cyfiawn rai a ddïolchant i’th enw Di,

Y trig yr uniawn rai ger Dy fron!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help