1 Crymmodd Bel, plygodd Nebo,
Y mae eu delwau ar anifeiliaid ac ar lwythfilod,
Eu llwythau (sy’) drymion, yn faich i’r(anifail) diffygiol.
2Plygasant, crymmasant ynghŷd,
Ni allasant achub eu baich,
Ond hwy eu hunain mewn caethiwed a aethant.
3Gwrandêwch arnaf, dŷ Iacob,
A holl weddill tŷ Israel,
Y rhai a gludwyd (gennyf) o’r groth,
Y rhai a arweddwyd (gennyf) o’r bru.
4A hyd henaint Myfi (yw) Efe,
A hyd benwyni Myfi a’ch cludaf,
Myfi a wnaethum, a Myfi a arweddaf,
A Myfi a gludaf, ac a roddaf ddiangfa.
5I bwy y’m gwnewch yn debyg, ac y’m cystedlwch,
Ac y’m cyffelybwch, fel y byddom debyg?
6Gan dywallt aur o’r cŵd,
Ac arian mewn clorian a bwysant,
Cyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw,
Hwy a ostyngant, ië, ymgrymmant (iddo);
7Dygant ef ar ysgwydd, arweddant ef,
A gosodant ef yn ei le, ac efe a saif,
O’i le ni syfl;
Ië, un a lefa wrtho ond nid ettyb yntau,
O’i gystudd ni rydd efe iachawdwriaeth iddo.
8Cofiwch hyn ac ymŵrolwch,
Gosodwch ef, droseddwŷr, at (eich) calon;
Cofiwch y pethau gynt eriôed
9Mai Myfi (sy’) Dduw, ac nad neb amgen,
Elöim, ac nad (oes) dim yn debyg i Mi;
10Yn mynegi o flaen llaw yr hyn a ganlyn,
Ac er cynt yr hyn na wnaed,
Gan ddywedyd Fy nghynghor a saif,
A’m holl ewyllys a wnaf:
11 Yn galw o’r dwyrain yr eryr,
Ac o wlad bell wr Fy nghynghor;
Yn ddïau Mi a ddywedais; yn ddïau gwnaf i hynny ddyfod;
Cynlluniais, yn ddïau Mi a’i gwnaf.
12Gwrandêwch arnaf, y rhai cedyrn galon,
Y rhai pell oddi wrth Fy nghyfiawnder;
13Nesêais Fy nghyfiawnder, nid yw ym mhell;
A’m hiachawdwriaeth nid oeda.
A rhoddaf yn Tsïon iachawdwriaeth,
I Israel Fy ngogoniant.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.