S. Luc 6 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A bu ar Sabbath, fyned o Hono trwy faesydd yd, a thynnodd Ei ddisgyblion y tywys, a bwyttasant gan eu rhwbio â’u dwylaw.

2A rhai o’r Pharisheaid a ddywedasant, Paham y gwnewch yr hyn nid yw gyfreithlawn ei wneuthur ar Sabbathau?

3A chan atteb iddynt, dywedodd yr Iesu, Oni ddarllenasoch chwaith hyn, pa beth a wnaeth Dafydd, pan yr oedd chwant bwyd arno, efe a’r rhai oedd gydag ef;

4y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a bara’r gosodiad ger bron a gymmerth ac a fwyttaodd efe, a rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef, yr hwn nid cyfreithlawn yw ei fwytta, oddieithr gan yr offeiriaid yn unig?

5A dywedodd wrthynt, Arglwydd yw Mab y dyn ar y Sabbath.

6A bu ar Sabbath arall, fyned o Hono i mewn i’r sunagog a dysgu; ac yr oedd yno ddyn a’i law ddehau wedi gwywo.

7A gwylied Ef a wnaeth yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid ai ar y Sabbath yr iachai Efe ef, fel y caffent beth i’w gyhuddo Ef.

8Ac Efe a wybu eu hymresymmiadau; a dywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw ddehau wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol; ac wedi cyfodi o hono, safodd.

9A dywedodd yr Iesu wrthynt, Gofynaf i chwi, Ai cyfreithlawn ar y Sabbath wneuthur da, ynte gwneuthur drwg; cadw einioes, a’i colli?

10Ac wedi edrych o amgylch arnynt oll, dywedodd wrtho, Estyn dy law; ac efe a wnaeth felly, ac adferwyd ei law ef;

11a hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.

12A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan o Hono i’r mynydd i weddïo; a pharhaodd ar hyd y nos yn ei weddi ar Dduw.

13A phan aeth hi yn ddydd, galwodd Atto Ei ddisgyblion; ac wedi dethol allan o honynt ddeuddeg,

14y rhai hefyd a enwodd Efe yn Apostolion, sef Shimon, yr hwn hefyd a enwodd Efe Petr, ac Andreas ei frawd,

15ac Iago ac Ioan, a Philip a Bartholomëus, a Matthew a Thomas,

16ac Iago fab Alphëus, a Shimon, yr hwn a elwid Zelotes, ac Iwdas brawd Iago, a Iwdas Ishcariot yr hwn a aeth yn fradwr.

17Ac wedi dyfod i wared gyda hwynt, safodd ar le gwastad, a thyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Iwdea a Ierwshalem, ac o duedd môr Tyrus a Tsidon, y rhai a ddaethant i’w glywed Ef ac i’w hiachau o’u clefydau;

18a’r rhai a flinid gan ysprydion aflan a iachawyd;

19ac yr holl dyrfa a geisiai gyffwrdd ag Ef, canys gallu oedd yn dyfod allan o Hono, ac a iachaodd bawb.

20Ac Efe, wedi dyrchafu Ei lygaid ar Ei ddisgyblion, a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.

21Gwyn eich byd y rhai sydd a newyn arnoch yr awr hon, canys digonir chwi. Gwyn eich byd y rhai yn gwylo yn awr, canys chwerthin a gewch.

22Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant chwi, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant allan eich enw megis drwg, o achos Mab y Dyn.

23Llawenychwch yn y dydd hwnw, a llemmwch, canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef, canys yr un ffunud y gwnaeth eu tadau i’r prophwydi.

24Ond gwae chwi y goludogion, canys derbyniasoch eich diddanwch.

25Gwae chwi y rhai a lanwyd yn awr, canys newyn fydd arnoch. Gwae y rhai sy’n chwerthin yn awr, canys galaru a gwylo a gewch.

26Gwae pan yn dda y dywaid pob dyn am danoch, canys yr un ffunud y gwnelai eu tadau i’r gau-brophwydi.

27Eithr wrthych chwi y sy’n clywed y dywedaf, Cerwch eich gelynion:

28gwnewch dda i’r rhai a’ch casant: bendithiwch y rhai a’ch melldithiant; gweddïwch dros y rhai a’ch drygant;

29i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnyg y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd: i bob un a ofyno genyt, dyro;

30a chan yr hwn a ddygo ymaith yr eiddot, na chais eilchwyl.

31Ac fel yr ewyllysiwch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau hefyd iddynt yr un ffunud.

32Ac os cerwch y rhai a’ch carant, pa ddiolch sydd i chwi, canys y pechaduriaid a garant y rhai sydd yn eu caru hwynt?

33Ac os gwnewch dda i’r rhai sy’n gwneuthur da i chwi, pa ddiolch sydd i chwi, canys y pechaduriaid a wnant yr un peth?

34Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai y gobeithiwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? Pechaduriaid hefyd i bechaduriaid a roddant echwyn, fel y derbyniont y cymmaint.

35Ond “cerwch” eich gelynion, a “gwnewch dda,” a “rhoddwch echwyn,” heb obeithio dim drachefn; a bydd eich gwobr yn fawr, a byddwch blant y Goruchaf, canys Efe, daionus yw i’r rhai anniolchgar a drwg.

36Byddwch drugarogion, fel y mae eich Tad yn drugarog.

37Ac na fernwch ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch ac ni’ch condemnir ddim;

38gollyngwch yn rhydd, a gollyngir chwi yn rhyddion: rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes, canys â pha fesur y mesurwch, y mesurir drachefn i chwi.

39A dywedodd hefyd ddammeg wrthynt, A ddichon dyn dall dywyso dyn dall? Onid y ddau a syrthiant i’r ffos?

40Nid yw disgybl uwchlaw ei athraw; ond pob un a berffeithiwyd fydd fel ei athraw.

41A phaham yr edrychi ar y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd, ond y trawst y sydd yn dy lygad dy hun nad ystyri?

42Neu pa fodd y gelli ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi fwrw allan y brycheuyn y sydd yn dy lygad, a thithau ni weli y trawst y sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan, yn gyntaf, y trawst o’th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur i fwrw allan y brycheuyn y sydd yn llygad dy frawd.

43Canys nid oes pren da yn dwyn ffrwyth llygredig, nac etto bren llygredig yn dwyn ffrwyth da;

44canys pob pren wrth ei ffrwyth ei hun a adwaenir; canys nid oddiar ddrain y casglant ffigys, nac oddiar berth yr heliant rawnwin.

45Y dyn da o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda; a’r dyn drwg o’r trysor drwg, a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg; canys o orlawnder y galon y llefara ei enau ef.

46A phaham y gelwch Fi, Arglwydd, Arglwydd, ac heb wneud o honoch y pethau a ddywedaf?

47Pob un y sy’n dyfod Attaf, ac yn clywed Fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur,

48dangosaf i chwi i bwy y mae yn gyffelyb; cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd y sail ar y graig; a llifeiriant wedi digwydd, torrodd yr afon ar y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo o herwydd mai da yr adeilesid ef.

49Ond yr hwn a glyw, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear, heb sail, ar yr hwn y torrodd yr afon, ac yn uniawn y syrthiodd efe yn bentwr, ac yr oedd torriad y tŷ hwnw yn fawr.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help