1Atteb tyner a ddettry lid,
Ond gair garw a gyfyd ddig.
2Tafod y doethion a draetha wybodaeth dda,
Ond genau ’r ynfydion a fwrlyma ffolineb.
3Ym mhob man (y mae) llygaid Iehofah,
Yn edrych ar y drwg rai a ’r da.
4Llarieidd-dra tafod (sydd) bren bywyd,
Ond gwyrad ynddo (sydd) friw yn yr yspryd.
5Y ffol a ddirmyg gerydd ei dad,
Ond a ddalio ar argyhoeddiad sydd gall.
6Yn nhŷ ’r cyfiawn (y mae) golud lawer,
Ond yn ennill yr annuwiol cythrwfl (sydd).
7Gwefusau ’r doethion a wasgar wybodaeth,
Ond calon yr ynfydion, nid sicr (yw).
8Aberth yr annuwiolion (sydd) ffieidd-beth gan Iehofah,
Ond gweddi ’r uniawn (yw) Ei hyfrydwch.
9Ffeidd-beth gan Iehofah (yw) ffordd yr annuwiol,
Ond dilynwr cyfiawnder a gâr Efe.
10Cerydd blin (fydd) i ’r hwn a âd y llwybr,
A gasâo argyhoeddiad a drenga.
11Annwn a difancoll (sydd) ger bron Iehofah,—
Pa faint mwy calonnau plant dynion?
12Nid hoff gan watwarwr ei argyhoeddi,
At y doethion nid â efe.
13Calon lawen a siriola ’r gwyneb,
Ond trwy ddolur y galon yr yspryd a dristêir.
14Calon y synhwyrol a gais wybodaeth,
Ond gwyneb yr ynfydion a ymborth ar ffolineb.
15Holl ddyddiau’r cystuddiol (sydd) flin,
Ond y dedwydd o galon, gwledd wastadol (yw).
16Gwell ychydig gydag ofn Iehofah,
Na thrysor lawer, a chythrwfl gydag ef.
17Gwell saig o lysiau, a chariad yno,
Nag ŷch pasgedig, a chas gydag ef.
18Gwr digllon a gyffry ’r gynnen,
Ond yr hwyrfrydig i lid a lonydda ymryson.
19Ffordd y diog (sydd) fel gwrych drain,
Ond llwybr yr uniawn (sydd) sarn.
20Mab doeth a lawenhâ ei dad,
Ond yr ynfyttaf o ddynion (yw) dirmygwr ei fam.
21Ffolineb (sydd) lawenydd i ’r diffygiol o feddwl,
Ond gwr synhwyrol a â ’r ffordd uniawn.
22Diddymmir bwriadau lle ni bo cysyl,
Ond mewn amlder cynghorwyr y safant.
23Llawenydd (sydd) i wr trwy atteb ei enau,
A gair yn ei amser,—mor dda (yw)!
24Llwybr y bywyd (sydd) i fynu, i ’r deallus,
Er mwyn cilio oddi wrth annwn obry.
25Tŷ ’r beilchion a ddiwreiddia Iehofah,
Ond sicrhâ Efe derfyn y weddw.
26Ffieidd-beth gan Iehofah (yw) bwriadau ’r drygionus,
Ond glân (yw) geiriau rhadlondeb.
27Gofidio ei dŷ y mae ’r hwn a elwo elw,
Ond a gasâo wobrau, fydd byw.
28Calon y cyfiawn a fyfyria ar atteb,
Ond genau ’r annuwiolion a fwrlyma ddrwg.
29Pell (yw) Iehofah oddi wrth yr annuwiolion,
Ond gweddi ’r cyfiawn rai a wrendy Efe.
30Gwrthddrych y llygaid a lawenhâ ’r galon,
Newydd da a ireiddia ’r corph.
31Y glust a wrandawo ar argyhoeddiad er bywyd,
Ymhlith y doethion y trig hi.
32A wrthodo gerydd (sy)’n diystyru ei hun,
Ond a wrandawo ar argyhoeddiad a gaiff ddeall.
33Ofn Iehofah (sydd) gerydd er doethineb,
A chyn anrhydedd (y mae) gostyngeiddrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.