1Ac hyspysu yr wyf i chwi, frodyr, ras Duw, yr hwn a roddwyd yn eglwysi Macedonia;
2mai mewn llawer o brofiad gorthrymder, mawr helaethrwydd eu llawenydd a’u tlodi dwfn a fawr-ymhelaethasant i gyfoeth eu haeledd; canys yn ol eu gallu,
3tystiaf, a thu hwnt i’w gallu, o’u hewyllys eu hunain,
4gyda llawer o ymbil yn deisyfu arnom o ran y gras a’r cymmundeb yng ngweini i’r saint, y rhoddasant,
5ac nid fel y gobeithiasom, eithr hwynt eu hunain a roddasant hwy yn gyntaf i’r Arglwydd, ac i ni trwy ewyllys Duw:
6fel yr erfynasom ar Titus, fel y dechreuasai o’r blaen, felly y gorphenai ynoch y gras hwn hefyd.
7Eithr fel ymhob peth yr ydych yn orlawn, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phob astudrwydd, ac yn eich cariad tuag attom ni, edrychwch ar fod o honoch yn y gras hwn yn orlawn.
8Nid trwy orchymyn yr wyf yn dywedyd, eithr gan brofi, trwy astudrwydd eraill, wirionedd eich cariad chwi:
9canys adwaenoch ras ein Harglwydd Iesu Grist, mai er eich mwyn chwi yr aeth yn dlawd, ac Yntau yn oludog, fel y byddai i chwi, trwy Ei dlodi Ef, fyned yn oludog.
10Ac fy marn yn hyn a roddaf, canys hyn sydd er eich lles chwi, y rhai oeddych y cyntaf nid yn unig i wneuthur, eithr i ewyllysio hefyd, er y llynedd.
11Ond yn awr gorphenwch y gwneuthur hefyd, er mwyn fel yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, y bo hefyd y gorphen, o’r gallu;
12canys os y parodrwydd sydd, yn ol pa beth bynnag sydd gan ddyn y mae yn gymmeradwy, ac nid yn ol yr hyn nad yw ganddo:
13canys nid fel y bo i eraill ysgafnder,
14ac i chwi orthrymder; eithr o gyfartalrwydd. Y pryd hwn bydded eich helaethrwydd chwi yn diwallu eu diffyg hwy, fel y bo eu helaethrwydd hwythau yn diwallu eich diffyg chwi,
15fel y bo cyfartalrwydd; fel yr ysgrifenwyd, “Yr hwn a gasglodd lawer, nid oedd ganddo dros ben; a’r hwn a gasglodd ychydig, nid oedd arno eisiau.”
16Ond diolch i Dduw, yr Hwn sy’n rhoddi yr un astudrwydd trosoch yng nghalon Titus:
17canys ein hannogaeth a dderbyniodd efe; a chan fod yn fwy astud, o’i wirfodd ei hun yr aeth allan attoch.
18A danfonasom gydag ef y brawd yr hwn y mae ei glod yn yr efengyl trwy’r holl eglwysi;
19ac nid hyny yn unig, eithr wedi ei ddewis hefyd gan yr eglwysi i gydymdaith â ni yn y gras hwn, yr hwn a wasanaethir genym er gogoniant yr Arglwydd, ac i amlygu ein parodrwydd;
20gan ochelyd hyn, na fyddai i neb feio arnom yn yr haelioni hwn a wasanaethir genym;
21canys rhag-ddarparu yr ydym bethau ardderchog, nid yn unig yngolwg yr Arglwydd, eithr yngolwg dynion hefyd.
22A danfonasom gyda hwynt ein brawd yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fod yn astud, ac yn awr yn llawer mwy astud, am yr ymddiried mawr sydd ganddo ynoch.
23Os am Titus y gofynir, cyd-gyfranogwr yw â mi, a thuag attoch chwi fy nghyd-weithiwr; neu os am ein brodyr, cenhadau yr eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.
24Y prawf, gan hyny, o’ch cariad ac o’n hymffrost ni am danoch, dangoswch iddynt hwy yngwyneb yr eglwysi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.