Galatiaid 2 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Gwedi hyny, ar ol yspaid pedair blynedd ar ddeg yr aethum drachefn i fynu i Ierwshalem ynghyda Barnabas,

2gan gymmeryd gyda mi Titus hefyd. Ac aethum i fynu yn ol datguddiad, a gosodais o’u blaen yr Efengyl yr wyf yn ei phregethu ym mhlith y cenhedloedd, ond o’r neilldu i’r rhai mewn cyfrif, rhag mewn modd yn y byd yn ofer y rhedwn neu y rhedais.

3Eithr ni fu i hyd yn oed Titus, yr hwn oedd gyda mi, ac yntau yn Roegwr, ei gymhell i amdorri arno,

4a hyny o achos y gau-frodyr a ddygpwyd i mewn yn ddirgel, y rhai a ddaethant i mewn yn ddirgel i yspïo ein rhyddid y sydd genym yng Nghrist Iesu fel y’n caethiwent ni:

5i’r rhai ni fu i ni hyd yn oed am awr ymostwng mewn darostyngiad, fel y byddai i wirionedd yr Efengyl barhau gyda chwi.

6Ond gan y rhai mewn cyfrif eu bod yn rhyw beth (pa fath bynnag oeddynt, i mi ni wna ddim gwahaniaeth, gwyneb dyn Duw ni dderbyn,) canys i mi y rhai mewn cyfrif ni chwanegasant ddim;

7eithr yn y gwrthwyneb, wrth weled o honynt yr ymddiriedwyd i mi am efengyl y di-amdorriad, fel i Petr am efengyl yr amdorriad,

8(canys yr Hwn a weithiasai i Petr i apostoliaeth yr amdorriad, a weithiodd i mi hefyd

9tuag at y cenhedloedd;) ac wedi gweled y gras a roddwyd i mi, Iago a Cephas ac Ioan, y rhai a gyfrifid mai colofnau oeddynt, a roddasant i mi ac i Barnabas ddeheu-ddwylaw cymdeithas, fel yr elem ni at y cenhedloedd,

10a hwythau at yr amdorriad, yn unig am y tlodion y cofiem, y peth ei hun yr oeddwn hefyd selog i’w wneud ef.

11Ond pan ddaeth Cephas i Antiochia, i’w wyneb y gwrth-sefais ef, canys condemniedig ydoedd;

12canys cyn dyfod o rai oddiwrth Iago, ynghyda’r cenhedloedd y bwyttaai; ond pan ddaethant, cilio ac ymddidoli yr oedd efe, gan ofni y rhai o’r amdorriad;

13ac ynghydag ef y cyd-ragrithiodd y lleill hefyd o’r Iwddewon, fel y bu i Barnabas hefyd ei ddwyn ymaith â’u rhagrith hwy.

14Eithr pan welais nad iawn-droedient yn ol gwirionedd yr Efengyl, dywedais wrth Cephas ger bron pawb, Os tydi, a thi yn Iwddew, wyt yn byw fel y cenhedloedd ac nid yn Iwddewaidd, pa sut yr wyt yn cymhell y cenhedloedd i fyw yn Iwddewaidd?

15Nyni wrth naturiaeth yn Iwddewon, ac nid o’r cenhedloedd yn bechaduriaid,

16ond yn gwybod na chyfiawnheir dyn gan weithredoedd y Gyfraith, eithr trwy ffydd yng Nghrist Iesu; nyni hefyd, yng Nghrist Iesu y credasom fel y’n cyfiawnheid trwy ffydd yng Nghrist, ac nid trwy weithredoedd y Gyfraith; canys trwy weithredoedd y Gyfraith ni chyfiawnheir un cnawd.

17Ond os pan yn ceisio ein cyfiawnhau yng Nghrist y’n caed ni ein hunain yn bechaduriaid, a ydyw Crist, gan hyny yn weinidog pechod?

18Na atto Duw. Canys os y pethau a dynnais i lawr, y rhai hyn yr wyf trachefn yn eu hadeiladu, troseddwr y profaf fy hun.

19Canys myfi, trwy’r Gyfraith i’r Gyfraith y bu’m farw, fel i Dduw y byddwn fyw.

20Ynghyda Christ y’m croes-hoeliwyd; eithr byw ydwyf; ond ddim mwyach myfi, ond byw ynof y mae Crist; a’r hyn yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, mewn ffydd yr wyf yn ei fyw, sef y ffydd ym Mab Duw, yr Hwn a’m carodd ac a’i dodes Ei hun drosof.

21Nid wyf yn dirymmu gras Duw, canys os trwy’r Gyfraith y mae cyfiawnder, yna yn ofer y bu Crist farw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help