1Dechreu efengyl Iesu Grist, Fab Duw.
2Fel yr ysgrifenwyd yn Eshaiah y prophwyd,
“Wele, danfon yr wyf Fy nghennad o flaen Dy wyneb,
Yr hwn a barottoa Dy ffordd o’th flaen.”
3“Llef un yn llefain
Yn yr anialwch, parottowch ffordd Iehofah,
Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef.”
4Daeth Ioan, yr hwn oedd yn bedyddio yn yr anialwch ac yn pregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau.
5Ac aeth allan atto holl wlad Iwdea, a phobl Ierwshalem i gyd, a bedyddiwyd hwy ganddo yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
6Ac yr oedd Ioan wedi ei wisgo â blew camel, ac â gwregys croen am ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwyllt;
7a phregethodd, gan ddywedyd, Dyfod y mae’r Hwn sydd gryfach na myfi, ar fy ol, i’r Hwn nid wyf deilwng, gan ymgrymu, i ddattod carrai Ei esgidiau.
8Myfi a’ch bedyddiais â dwfr; ond Efe a’ch bedyddia â’r Yspryd Glân.
9A bu yn y dyddiau hyny, y daeth yr Iesu o Natsareth yn Galilea, ac y bedyddiwyd Ef gan Ioan yn yr Iorddonen;
10ac yn uniawn, wrth ddyfod i fynu o’r dwfr, gwelodd y nefoedd yn ymrwygo, a’r Yspryd, fel colommen yn dyfod i lawr arno,
11a llef a ddaeth o’r nefoedd,
Tydi wyt Fy Mab anwyl: Ynot Ti y’m boddlonwyd.
12Ac yn uniawn yr Yspryd a’i gyrrodd Ef allan i’r anialwch:
13a bu Efe yn yr anialwch ddeugain niwrnod, yn Ei demtio gan Satan; ac yr oedd gyda’r gwyllt-filod; ac yr angylion a weinient Iddo.
14Ac ar ol traddodi Ioan, daeth yr Iesu i Galilea, gan bregethu Efengyl Dduw,
15a dywedyd, Cyflawnwyd yr amser, a nesaodd teyrnas Dduw. Edifarhewch a chredwch yr Efengyl.
16Ac wrth rodio wrth fôr Galilea, gwelodd Shimon ac Andreas brawd Shimon, yn bwrw rhwyd yn y môr, canys yr oeddynt bysgodwyr.
17A dywedodd yr Iesu wrthynt, Deuwch ar Fy ol I, a gwnaf chwi i fyned yn bysgodwyr dynion.
18Ac yn uniawn, gan adael y rhwydau, canlynasant Ef.
19Ac wedi myned ychydig ymlaen, gwelodd Iago fab Zebedëus, ac Ioan ei frawd, a hwythau hefyd yn y cwch yn cyweirio’r rhwydau.
20Ac yn uniawn y galwodd hwynt; a chan adael eu tad Zebedëus yn y cwch ynghyda’r cyflog-ddynion, yr aethant ymaith ar Ei ol Ef.
21Ac aethant i mewn i Caphernahwm; ac yn uniawn, ar y Sabbath,
22wedi myned i mewn i’r sunagog, y dysgodd, a bu aruthr ganddynt o herwydd Ei ddysgad Ef; canys yr oedd yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid fel yr ysgrifenyddion.
23Ac yn uniawn yr oedd yn eu sunagog ddyn ag yspryd aflan,
24a gwaeddodd, gan ddywedyd, Pa beth sydd i ni a wnelom â Thi, Iesu o Natsareth?
25A ddaethost Ti i’n difetha ni? Adwaen i Ti pwy ydwyt, Sanct Duw. A dwrdiodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, Taw, a thyred allan o hono.
26A’r yspryd aflan, gan ei rwygo ef, a chan lefain â llef fawr, a ddaeth allan o hono;
27a rhyfeddodd pawb, fel yr ymofynasant yn eu mysg eu hunain, gan ddywedyd, Pa beth yw hwn? Dysgad newydd! Gydag awdurdod hyd yn oed i’r ysprydion aflan y gorchymyn, ac ufuddhant Iddo.
28Ac aeth y sôn am Dano allan yn uniawn, ym mhob man, i’r holl wlad o amgylch Galilea.
29Ac yn uniawn, wedi myned allan o’r sunagog, yr aethant i dŷ Shimon.
30A chwegr Shimon oedd yn gorwedd yn glaf o’r cryd; ac yn uniawn y dywedasant Wrtho am dani hi; ac,
31wedi myned atti, cododd Efe hi, gan ymaflyd yn ei llaw, a gadawodd y cryd hi, a gwasanaethodd hi arnynt.
32A’r hwyr wedi dyfod, pan fachludodd yr haul, dygasant Atto yr holl rai drwg eu hwyl a’r rhai cythreulig.
33A’r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.
34Ac iachaodd Efe lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau; a chythreuliaid lawer a fwriodd Efe allan; ac ni adawodd i’r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent Ef.
35A’r bore yn blygeiniol iawn, wedi codi o Hono, yr aeth allan,
36ac aeth i le anghyfaneddol, ac yno y gweddïodd; a daeth ar Ei ol Ef Shimon a’r rhai gydag ef;
37a chawsant Ef, a dywedasant Wrtho, y mae pawb yn Dy geisio Di.
38A dywedodd Efe wrthynt, Awn i le arall i’r trefi nesaf, fel y pregethwyf yno hefyd,
39canys i hyny y daethum allan, Ac aeth, gan bregethu i’w sunagogau hwynt, trwy holl Galilea, a’r cythreuliaid yn cael eu bwrw allan Ganddo.
40A daeth Atto ddyn gwahanglwyfus, gan ymbil ag Ef, a chan benlinio Iddo, a chan ddywedyd Wrtho, Os ewyllysi, gelli fy nglanhau.
41A chan dosturio, wedi estyn Ei law, cyffyrddodd Efe ag ef, a dywedodd wrtho,
42Ewyllysiaf, glanhaer di; ac yn uniawn yr ymadawodd y gwahanglwyf ag ef, a glanhawyd ef:
43ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, yn uniawn y danfonodd ef ymaith,
44a dywedodd wrtho, Gwel na ddywedi ddim wrth neb; eithr, dos ymaith; dangos dy hun i’r offeiriad; ac offrymma am dy lanhad y pethau a ordeiniodd Mosheh, yn dystiolaeth iddynt.
45Ac efe wedi myned allan a ddechreuodd gyhoeddi llawer a thanu’r gair ar led, fel na allai Efe mwy fyned yn amlwg i ddinas; eithr allan, mewn lleoedd anial yr oedd Efe; a daethant Atto o bob parth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.