1Yn y dydd hwnnw y cenir y gân hon;
“Yn nhir Iwdah dinas gadarn (sydd) i ni;
Iachawdwriaeth a esyd Efe yn gaerau ac yn rhagfur.
2Agorwch y pyrth, a daw cenedl gyfiawn i mewn,
(Cenedl) yn cadw gwirionedd; yn ei meddylfryd yn attegedig.
3Ti a gedwi heddwch heddwch,
O herwydd ynot Ti yr ymddiriedodd.
4Ymddiriedwch yn Iehofah byth bythoedd.
Canys yn Iah Iehofah (y mae) craig dragywyddol.
5Canys Efe a iselodd breswylwŷr yr uchelder;
Y dref uchel Efe a ostyngodd,
Efe a’i gostyngodd hi hŷd y llawr,
Efe a’i dug hi hŷd y llwch.
6Fe sathr troed hi,
Traed y trueiniaid, camrau ’r tlodion.
7Ffordd y cyfiawn sydd uniawn uniawn,
Llwybr y cyfiawn a lyfnhêi:
8Ië, ar ffordd Dy farnedigaethau, Iehofah, y’th ddisgwyliasom,
At Dy enw, ac at Dy goffadwriaeth (y mae) dymuniad ein henaid.
9Â ’m henaid y’th ddymunais liw nos,
Ac â ’m hyspryd o’m mewn y’th fore-geisiais,
Canys pan (fo) Dy farnedigaethau ar y ddaear
Cyfiawnder a ddysg preswylwŷr y byd.
10Er tirioni wrth yr anghyfiawn ni ddysg efe gyfiawnder,
Yn nhir uniondeb y gwna efe ar gam,
Ac nid edrych ar ardderchowgrwydd Iehofah.
11O Iehofah, dyrchefir Dy law, (ond) ni wnant weled.
Fe gânt weled, gan gywilyddio, zêl (Dy) bobl,
Ië, tân Dy elynion a’u hysa hwynt.
12O Iehofah, Ti a drefni hoddwch i ni,
Canys hyd yn oed ein holl weithredoedd,
Ti a’u gwnaethost drosom ni.
13O Iehofah, ein Duw!
Arglwyddiaethodd arnom arglwyddi (eraill) heb law Di,
(Ond) yn unig ynot Ti y coffâwn Dy enw:
14Meirw (ydynt), ni byddant fyw,
Gwyllion (ydynt) ni chyfodant;
Am hynny ymwelaist â, a difethaist, hwynt,
A dinystriaist bob coffa am danynt.
15Ychwanegaist ar y genedl, O Iehofah;
Ychwanegaist ar y genedl; Ti a ogoneddwyd;
Estynaist ym mhell holl gyrrau’r ddaear.
16O Iehofah, mewn cyfyngder yr ymwelsom â Thi,
Tywalltasom hustingawl weddi, (pan oedd) Dy gerydd arnom.
17Fel pan fo gwraig feichiog yn agos i esgor,
Hi a ofidia, hi a waedda dan ei gwewyr;
Felly yr oeddym o’th flaen Di, O Iehofah.
18Beichiogasom, gofidiasom, fel ped esgorem ar wŷnt.
Iachawdwriaeth ni wnaethpwyd i’r ddaear,
Ac ni syrthiodd preswylwŷr y byd.
19Byw bydd Dy feirw Di; fy nghyrph i a adgyfodant;
Deffrôwch, a chenwch yn llawen, breswylwŷr y llwch.
Canys gwlith y wawr ddydd yw Dy wlith Di;
Ond y 2gwyllion, y 1ddaear a’u herthyla hwynt.”
20Tyred fy mhobl, dos i’th ystafelloedd,
A chau dy ddrysau arnat,
Llecha am ychydig, am amrant,
Hyd onid elo’r llid heibio.
21Canys, wele, Iehofah sy’n dyfod allan o’i sefyllfa
I ymweled âg anwiredd preswyliwr y ddaear arno,
Ac fe ddatguddia ’r ddaear ei gwaed,
Ac ni ddyd len mwyach dros ei lladdedigion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.