1 yr ymadrodd ynghylch damascus.
Wele Damascus wedi ei symmud o (fod) yn ddinas, A bydd hi yn garnedd syrthiedig.
2Gadawyd y dinasoedd am byth bythoedd,
I ddiadellau y byddant,
A hwy a orweddant, ac ni (bydd) a’ (u) dychryno.
3A derfydd ymddiffynfa o Ephraim,
A brenhiniaeth o Damascus; a gweddill Syria
Fel gogoniant meibion Israel a fydd,
Medd Iehofah y lluoedd.
4A bydd yn y dydd hwnnw,
Y meinhêir gogoniant Iacob,
A brasder ei gnawd ef a gulhâ.
5Ac efe a fydd fel pan gasglo un y cnwd ar ei droed,
A’i fraich 『2yn medi』 y 1tywysenau;
A bydd fel un yn casglu tywysenau ynglyn Rephäim;
6Gadewir ynddo loffiad, fel (yn) ysgydwad yr olewŷdden,
Dau (neu) dri o rawn ymlaen y brig,
Pedwar (neu) bump yn ei changhennau ffrwythlawn;
Medd Iehofah Duw Israel.
7Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr,
A’i lygaid ar Sanct Israel a dremiant;
8Ac nid edrych efe at allorau, gwaith ei ddwylaw;
Ac ar yr hyn a wnaeth ei fysedd ni thremia efe,
Nac ar y llwyni, na’r haul-ddelwau.
9Yn y dydd hwnnw y bydd ei ddinasoedd cedyrn
Fel ymadawiad yr Hefiaid a’r Amoriaid,
Y rhai a ymadawsant o flaen wyneb meibion Israel,
Ac y bydd anghyfannedd-dra.
10O herwydd anghofio o honot Dduw dy iachawdwriaeth,
A chraig dy gadernid na chofiaist,
Am hynny y plenni blanhigion hyfryd,
A changhennau dïeithr a impi;
11Yn y dydd pan y gwnelych i’th blanhigion dyfu,
A’r bore y gwnelych i’th hâd flodeuo,
Y dygir ymaith y cynhauaf yn nydd meddiannu,
Ac y bydd gofid dïobaith.
12 Gwae dyrfa y bobloedd aml,
Fel twrf y môr y tyrfeiniant;
A (gwae) ruad y cenhedloedd,
Fel rhuad dyfroedd cedyrn y rhuant.
13Y cenhedloedd fel rhuad dyfroedd cedyrn a ruant,
Ond (Duw) a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ym mhell,
Ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwỳnt,
Ac fel sofl treigledig o flaen y corwỳnt.
14Yn amser prydnhawn, wele drallod!
Cyn y bore, ac nid (yw) efe!
Hon (yw) rhan y rhai a’n hanrheithiant ni,
A choelbren y rhai a’n hyspeiliant ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.