Datguddiad 14 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A gwelais, ac wele, Yr Oen yn sefyll ar Fynydd Tsion, ac ynghydag Ef gant a phedwar a deugain o filoedd a chanddynt Ei enw ac enw Ei Dad yn ysgrifenedig ar eu talcennau.

2A chlywais lais o’r nef, fel llais dyfroedd lawer, ac fel llais taran fawr; a’r llais, yr hwn a glywais, oedd fel yr eiddo telynorion yn canu eu telynnau;

3a chanu y maent fel pe bai ganiad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar anifail a’r henuriaid: ac ni allai neb ddysgu’r gân oddieithr y cant a phedwar a deugain o filoedd, y rhai a brynesid oddiar y ddaear.

4Y rhai hyn yw’r rhai gyda gwragedd ni halogesid hwynt, canys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw’r rhai sy’n canlyn Yr Oen pa le bynnag yr elo.

5Y rhai hyn a brynwyd oddiwrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw ac i’r Oen: ac yn eu genau ni chaed celwydd: dianaf ydynt.

6A gwelais angel arall yn ehedeg ynghanol y nef, a chanddo efengyl dragywyddol i efengylu i’r rhai sy’n trigo ar y ddaear,

7ac i bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl, yn dywedyd â llais mawr, Ofnwch Dduw, a rhoddwch Iddo ogoniant, canys daeth awr Ei farn, ac addolwch yr Hwn a wnaeth y nef a’r ddaear a’r môr a ffynhonnau dyfroedd.

8Ac un arall, ail angel, a ganlynodd, yn dywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babulon Fawr, yr hon, o win llid ei godineb, a ddiododd yr holl genhedloedd.

9Ac angel arall, trydydd, a’u canlynodd, yn dywedyd â llais mawr, Os yw neb yn addoli’r bwystfil a’i ddelw, ac yn derbyn nod ar ei dalcen neu ar ei law,

10efe hefyd a yf o win llid Duw, yr hwn a barottowyd yn ddigymmysg yn phiol Ei ddigofaint; a phoenir ef â thân a brwmstan yngwydd yr angylion sanctaidd, ac yngwydd Yr Oen;

11a mwg eu poenedigaeth, yn oes oesoedd y mae yn myned i fynu; ac nid oes gorphwysdra ddydd na nos, i’r rhai sy’n addoli’r bwystfil a’i ddelw, ac os yw neb yn derbyn nod ei enw.

12Yma y mae amynedd y saint, y rhai sy’n cadw gorchymynion Duw a ffydd Iesu.

13A chlywais lais o’r nef yn dywedyd, Ysgrifena, Gwyn eu byd y meirw, y rhai yn yr Arglwydd a drengant, o hyn allan; Ië, medd yr Yspryd, fel y gorphwysont o’u llafur, canys eu gweithredoedd sy’n canlyn ynghyda hwynt.

14A gwelais, ac wele, gwmmwl gwyn; ac ar y cwmmwl un yn ei eistedd, tebyg i fab dyn, a chanddo ar ei ben goron aur, ac yn ei law, grymman llym.

15Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml, yn gwaeddi â llais mawr wrth yr hwn yn ei eistedd ar y cwmmwl, Danfon dy grymman, a meda, canys daeth yr awr i fedi, canys tra-addfedodd cynhauaf y ddaear;

16a bwriodd yr hwn yn ei eistedd ar y cwmmwl, ei grymman ar y ddaear, a medwyd y ddaear.

17Ac angel arall a ddaeth allan o’r deml y sydd yn y nef, a chanddo yntau hefyd grymman llym.

18Ac angel arall a ddaeth allan o’r allor, yr hwn sydd a chanddo allu ar y tân, a lleisiodd â llais mawr wrth yr hwn oedd a chanddo’r crymman llym, gan ddywedyd, Danfon dy grymman llym di, a chasgla rawn-sypiau gwinwydden y ddaear, canys llawn-addfedodd ei grawn.

19A bwriodd yr angel ei grymman i’r ddaear, a chynhauafodd rawnwin gwinwydden y ddaear, a bwriodd i gerwyn llid Duw, y gerwyn fawr.

20A sathrwyd y gerwyn tu allan i’r ddinas, a daeth allan waed o’r gerwyn, hyd at ffroenau’r meirch, am fil a chwe chant o ’stadiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help