Diarhebion 4 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

IV.

1Gwrandêwch, blant, athrawiaeth tad,

Ac erglywch i ddysgu deall;

2Canys athrawiaeth dda a roddaf i chwi,

A’ m haddysg nac ymadewch;

3Canys mab fûm i i ’m tad,

Ac yn dyner ac anwyl yngolwg fy mam,

4Ac efe a’ m dysgai ac a ddywedai wrthyf,

“Dalied dy galon fy ngeiriau,

Cadw fy ngorchymynion a bydd byw;

5Darpar ddoethineb,—darpar ddeall,

Na âd dros gof, ac na wyra oddi wrth, eiriau fy ngenau,

6Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw,

Câr hi, a hi a’th ddiffynna;

7Pennaf peth (yw) doethineb; —darpar ddoethineb,—

Ac â ’th holl gyfoeth darpar ddeall;

8Gorchafa hi, a hi a ’th ddyrchafa,

Hi a ’th ogonedda am i ti ei chofleidio;

9Rhydd i ’th ben di amdorch gras,

A choron brydferth y’th anrhega.”

10Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau,

Ac amlhêir i ti flynyddoedd bywyd;

11Yn ffordd doethineb y ’th addysgaf,

Hyfforddaf di yn llwybrau uniondeb;

12Yn dy fynediad ni chyfyngir dy gamre,

Ac os rhedi ni thramgwyddi.

13Ymafael ar gerydd ac na ollwng ef,

Cadw ef, canys efe (yw) dy fywyd.

14I lwybr yr annuwiolion na ddos,

Ac na rodia ar hŷd ffordd y drygionus rai,

15Ymwrthod â hi, na thramwya ar hyd-ddi,

Cilia oddi wrthi a dos heibio; —

16Canys ni chysgant oni wnelont ddrwg,

A dygir ymaith eu cwsg oni chwympont (ddyn),

17Canys bwyttânt fara annuwioldeb,

A gwin trais a yfant;

18Ond llwybr y cyfiawn rai (sydd) fel y goleuni disglaer,

Yr hwn a lewyrcha fwyfwy nes y sefydlir y dydd,

19(A) llwybr y drygionus rai (sydd) fel y tywyllwch dudew,

—Ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.

20Fy mab, fy ngeiriau erglyw di,

At fy ymadroddion gogwydda dy glust,

21Na chiliant hwy o ’th olwg,

Cadw hwynt ynghanol dy galon,

22Canys bywyd hwynt-hwy i ’r neb a ’u caffont,

Ac i ’w holl gnawd iachâd.

23Rhagor pob gwyliad, cadw dy galon,

Canys allan o honi (y mae) tarddiadau bywyd.

24Symmud oddi wrthyt ŵyrgamedd genau,

A throfâedd gwefusau pellhâ di oddi wrthyt.

25Bydded i ’th lygaid edrych rhagddynt,

Ac i ’th amrantau dremio yn uniawn o’th flaen.

26Pwysa lwybr dy droed,

Ac iawn-sefydler dy holl ffyrdd;

27Na ogwydda at y llaw ddehau, nac at yr aswy,

Symmud ymaith dy droed oddi wrth ddrygioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help