Psalmau 45 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XLV.

1I’r blaengeiniad, ar Shoshanim. I feibion Corah. Awdl addysgiadol. Cân cariadau.

2Bwrlymu y mae fy nghalon â gair siriol,

Adroddaf fi fy ngwaith o achos y brenhin,

Fy nhafod (fydd) bin ysgrifennydd buan.

3Teccach ydwyt na meibion dynion,

Tywalltwyd gras ar dy wefusau,

Gan hynny, bendithiodd Duw di yn dragywydd!

4Gwregysa dy gleddyf ar (dy) glun, O wron,

Dy ogoniant, a’th brydferthwch.

5A chyda ’th brydferthwch marchoga yn llwyddiannus,

O blaid gwirionedd, a lledneisrwydd, (a) chyfiawnder,

A phethau rhyfedd a ddysgo dy ddeheulaw i ti!

6(Bydded) dy saethau yn llymion

—Y bobloedd a syrthiant danat—

Ynghalon gelynion y brenhin!

7Dy orsedd (a sefydla) Duw yn dragywydd a byth,

Teyrnwïalen uniondeb (yw) teyrnwïalen dy frenhiniaeth;

8Ceraist gyfiawnder, a chaseaist ddrygioni,

Am hynny y’th enneiniodd Duw, dy Dduw di,

Ag olew gorddywenydd, rhagor dy gydraddolion.

9Myrrh, ac aloes, (a) chasia (yw) dy holl wisgoedd,

Allan o’r palasau ifori y tannau a’th lawenhânt;

10Merched brenhinoedd (sydd) ym mhlith dy garedigesau,

Ymorsaif y frenhines ar dy ddeheulaw mewn aur coeth Ophir.

11—Gwrando, ferch, a gwel, a gogwydda dy glust,

Ac anghofia dy bobl dy hun, a thŷ dy dad,

12A chwennyched y brenhin dy geinder,

Canys efe (sydd) arglwydd i ti, a gwarogaetha iddo ef;

13A merch Tyrus âg anrheg a linara dy wyneb,

(A)’r cyfoethoccaf bobloedd:—

14Gorwychedd i gyd (yw) merch y brenhin, tu fewn(y llys),

Wedi ei chydwëu âg awr (y mae) ei gwisg hi;

15Mewn dillad amliwiog yr hebryngir hi at y brenhin,

Y gwyryfon ar ei hol hi, ei chyfeillesau,

A ddygir attat ti;

16—Hebryngir hwynt gyda llawenydd a gorfoledd,

Deuant i lys y brenhin,—

17Ynghyferyd dy dadau y bydd dy feibion,

Gosodi hwynt yn dywysogion yn yr holl wlad!

18Paraf gofio dy enw ymhob cenhedlaeth a chenhedlaeth,

Am hynny pobloedd a’th foliannant yn dragywydd a byth!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help