S. Luc 1 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Gan fod llawer wedi cymmeryd mewn llaw drefnu traethawd am y pethau a gyflawnwyd yn ein plith,

2fel y traddododd i ni y rhai oeddynt o’r dechreuad yn llygad-dystion ac yn weinidogion y Gair,

3gwelwyd yn dda genyf finau hefyd, wedi canlyn o honof bob peth o’r dechreuad gyda manylrwydd, ysgrifenu attat mewn trefn, O ardderchoccaf Theophilus,

4fel y gwybyddech y sicrwydd am y pethau y’th ddysgwyd ynddynt.

5Yr oedd yn nyddiau Herod, frenhin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Zacariah, o ddydd-gylch Abia; a gwraig oedd iddo o ferched Aaron, a’i henw oedd Elishabet.

6Ac yr oeddynt yn gyfiawn, ill dau, ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau’r Arglwydd yn ddifeius.

7Ac nid oedd ganddynt blentyn, gan fod Elishabet yn anffrwythlawn, a’r ddau oeddynt wedi dyfod i ddyddiau oedrannus.

8A bu wrth wasanaethu o hono swydd offeiriad, yn nhrefn ei ddydd-gylch,

9ger bron Duw, yn ol arfer swydd yr offeiriaid, ei ran oedd arogl-darthu, ar ol myned i mewn i deml yr Arglwydd.

10A holl liaws y bobloedd yn gweddïo, allan, ar awr yr arogl-darthiad.

11Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd, yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogl-darth;

12a chynhyrfwyd Zacariah pan welodd ef, ac ofn a syrthiodd arno.

13A dywedodd yr angel wrtho, Nac ofna, Zacariah; canys gwrandawyd dy ddeisyfiad, a’th wraig Elishabet a ddwg fab i ti; a gelwi ei enw ef Ioan.

14A bydd llawenydd i ti, a gorfoledd; a llawer, wrth ei enedigaeth ef,

15a lawenychant, canys bydd efe yn fawr ger bron yr Arglwydd; ac na gwin na diod gadarn nid yf efe ddim; ac o’r Yspryd Glân y llenwir hyd yn oed o groth ei fam;

16a llawer o feibion Israel a dry efe at yr Arglwydd eu Duw;

17ac efe a â o’i flaen Ef yn yspryd a gallu Elias, i droi calonnau tadau at y plant, a’r anufudd i rodio yn noethineb y cyfiawnion, i barottoi i’r Arglwydd bobl barod.

18A dywedodd Zacariah wrth yr angel, Wrth ba beth y gwybyddaf hyn, canys myfi wyf henafgwr, ac fy ngwraig wedi dyfod i ddyddiau oedranus?

19A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw; a danfonwyd fi i lefaru wrthyt ac i fynegi i ti y newyddion da hyn.

20Ac wele, byddi fud ac heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser hwynt.

21Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Zacariah, a rhyfeddent wrth oedi o hono yn y deml.

22Ac wedi dyfod allan ni allai lefaru wrthynt; a gwybuant mai gweledigaeth a welsai efe yn y deml; ac efe oedd yn amneidio iddynt, ac a arhosodd yn fud.

23A bu, pan gyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth, yr aeth ymaith i’w dŷ ei hun.

24Ac ar ol y dyddiau hyn, beichiogodd Elishabet ei wraig ef,

25ac ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd, Fel hyn, erof y gwnaeth yr Arglwydd, yn y dyddiau yr edrychodd arnaf i dynu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.

26Ac yn y chweched mis, danfonwyd yr angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea, a’i henw Natsareth,

27at forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr a’i enw Ioseph, o dŷ Dafydd; ac enw’r forwyn oedd Miriam.

28Ac wedi myned i mewn atti, dywedodd, Henffych well, yr hon a gefaist ffafr.

29Yr Arglwydd fo gyda thi. A hithau, wrth yr ymadrodd y mawr-gynhyrfwyd hi, ac ymresymmodd pa fath oedd y cyfarchiad hwn;

30a dywedodd yr angel wrthi, Nac ofna, Miriam,

31canys cefaist ffafr gyda Duw: ac wele, beichiogi yn dy groth, ac esgori ar fab, a gelwi Ei enw IESU.

32Efe fydd fawr, Mab y Goruchaf a elwir Ef:

Ac Iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd, Ei dad:

33A theyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd;

Ac o’i frenhiniaeth ni fydd diwedd.

34A dywedodd Miriam wrth yr angel, Pa fodd y bydd hyn, canys gŵr nid adwaen i?

35A chan atteb, yr angel a ddywedodd wrthi,

Yr Yspryd Glân a ddaw arnat,

A gallu’r Goruchaf a gysgoda drosot;

Gan hyny hefyd y Peth Sanctaidd a enir,

Gelwir Ef Mab Duw.

36Ac wele, Elishabet dy gares, hithau hefyd a feichiogodd ar fab yn ei henaint; a hwn yw’r chweched mis iddi hi yr hon a elwid yn anffrwythlawn;

37canys nid ammhosibl gyda Duw yw neb rhyw beth.

38A dywedodd Miriam, Wele, gwasanaethyddes yr Arglwydd. Bydded i mi yn ol dy ymadrodd. Ac aeth yr angel ymaith oddiwrthi.

39Ac wedi cyfodi o Miriam yn y dyddiau hyn, yr aeth i’r mynydd-dir ar frys, i ddinas o Iwda;

40ac aeth i mewn i dŷ Zacariah, a chyfarchodd well i Elishabet.

41A bu pan glywodd Elishabet gyfarchiad Miriam, llammodd y plentyn yn ei chroth,

42a llanwyd Elishabet o’r Yspryd Glân, a chododd ei llais â gwaedd fawr, a dywedodd,

Bendigedig wyt ti ymhlith gwragedd,

A bendigedig yw ffrwyth dy groth.

43Ac o ba beth y cefais hyn, ddyfod o fam fy Arglwydd attaf?

44Canys wele, pan ddaeth llais dy gyfarchiad i’m clustiau, llammodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth.

45A dedwydd yw’r hon a gredodd, canys bydd cyflawniad i’r pethau a lefarwyd wrthi oddiwrth yr Arglwydd.

46A dywedodd Miriam,

Mawrhau’r Arglwydd y mae fy enaid,

47A gorfoleddodd fy yspryd yn Nuw fy Iachawdwr,

Canys edrychodd ar ostyngeiddrwydd Ei wasanaethyddes,

48Canys wele, o hyn allan, dedwydd y’m geilw yr holl genhedlaethau,

49Canys gwnaeth y Galluog i mi bethau mawrion,

A sanctaidd yw Ei enw,

50A’i dosturi sydd i genhedlaethau a chenhedlaethau,

I’r rhai sydd yn Ei ofni.

51Gwnaeth gadernid â’i fraich,

Gwasgarodd feilchion ym mwriad eu calon,

52Tynnodd i lawr gedyrn oddiar orsedd-feingciau,

A dyrchafodd ostyngedigion:

53Rhai newynog a lanwodd Efe â phethau da,

A chyfoethogion a ddanfonodd Efe ymaith yn weigion.

54Cynnorthwyodd Israel, Ei was,

I gofio tosturi,

55(Fel y llefarodd wrth ein tadau),

I Abraham a’i had yn dragywydd.

56Ac arhosodd Mair gyda hi ynghylch tri mis, a dychwelodd i’w thŷ.

57Ac i Elishabet y cyflawnwyd y tymp i esgor o honi, ac esgorodd ar fab.

58A chlywodd ei chymmydogion a’i cheraint, fawrhau o’r Arglwydd Ei dosturi wrthi, a chydlawenychasant â hi.

59A bu ar yr wythfed dydd y daethant i amdorri ar y plentyn, a galwasant ef, yn ol enw ei dad, Zacariah.

60A chan atteb, ei fam a ddywedodd, Nage; eithr gelwir ef Ioan.

61A dywedasant wrthi, Nid oes neb o’th dylwyth a elwir wrth yr enw hwn.

62Ac amneidiasant i’w dad, pa beth yr ewyllysiai ei alw ef.

63Ac wedi gofyn o hono am argraphlech, ysgrifenodd gan ddywedyd, Ioan yw ei enw; a rhyfeddasant oll.

64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, ac ei dafod; a llefarodd gan fendithio Duw.

65Ac yr oedd ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy; ac yn holl fynydd-dir Iwdea y llefarwyd yr holl bethau hyn.

66A phawb o’r rhai a’u clywsant, a’u rhoisant yn eu calonnau gan ddywedyd, Pa beth, gan hyny, fydd y plentyn hwn? canys llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.

67A Zacariah, ei dad, a lanwyd o’r Yspryd Glân, ac a brophwydodd, gan ddywedyd,

68Bendigedig fyddo’r Arglwydd, Duw Israel,

Canys ymwelodd ag, a gwnaeth brynedigaeth i’w, bobl:

69A dyrchafodd gorn iachawdwriaeth i ni yn nhŷ Dafydd, ei was,

70(fel y llefarodd trwy enau Ei brophwydi sanctaidd er’s dechreuad y byd,)

71Ymwared oddiwrth ein gelynion,

Ac o law pawb o’n caseion;

72I wneuthur tosturi â’n tadau,

Ac i gofio Ei gyfammod sanctaidd,

73Y llw a dyngodd Efe wrth Abraham, ein tad,

74Ar roddi i ni, gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion,

Ei wasanaethu Ef yn ddiofn,

75Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger Ei fron ein holl ddyddiau.

76A thithau, blentyn, prophwyd y Goruchaf y’th elwir,

Canys ai o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barottoi Ei ffyrdd Ef,

77I roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl

Trwy faddeuant o’u pechodau,

78Trwy diriondeb trugaredd ein Duw,

Trwy’r hon yr ymwêl â ni godiad haul o’r uchelder,

79I lewyrchu i’r rhai sy’n eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau,

Er mwyn cyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.

80A’r bachgen a gynnyddodd ac a gryfhawyd mewn yspryd, ac a fu yn yr anial-leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad i Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help