1Yna yr Iesu a lefarodd wrth y torfeydd a’i ddisgyblion,
2gan ddywedyd, Ynghadair Mosheh yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Pharisheaid:
3yr oll, gan hyny, cymmaint ag a ddywedant wrthych, gwnewch a chadwch; ond yn ol eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac ni wnant.
4A rhwymant feichiau trymion ac anhawdd eu dwyn, a rhoddant hwynt ar ysgwyddau dynion; a hwy eu hunain, â’u bys nid ewyllysiant eu syflyd hwy.
5A’u holl weithredoedd a wnant er mwyn eu gweled gan ddynion, canys lledanant eu phylacterau,
6ac helaethant eu godreon, a charant y lle uchaf mewn gwleddoedd, a’r prif-gadeiriau yn y sunagogau,
7a’r cyfarchiadau yn y marchnadau, a’u galw gan ddynion Rabbi.
8Ond chwychwi, na’ch galwer Rabbi, canys un yw eich Athraw chwi; a’r oll o honoch chwi, brodyr ydych.
9Ac yn dad i chwi na elwch neb ar y ddaear, canys un yw eich Tad, yr Hwn sydd yn y nefoedd.
10Ac na’ch galwer yn feistriaid, canys un yw eich Meistr, sef Crist;
11a’r mwyaf o honoch fydd eich gweinidog;
12a’r hwn a ddyrchafo ei hun, a ostyngir; ac yr hwn a ostyngo ei hun, a ddyrchefir.
13A gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys cau teyrnas nefoedd yr ydych o flaen dynion; canys chwychwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai y sydd yn myned i mewn, ni adewch iddynt fyned i mewn.
15Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys myned o amgylch y môr a’r tir yr ydych i wneuthur un proselyt; ac wedi ei wneuthur, ei wneud ef yr ydych yn fab Gehenna ddwy waith fwy na chwi eich hunain.
16Gwae chwi, dywysogion deillion, y rhai sy’n dywedyd, Pwy bynnag a dyngo myn y deml, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn aur y deml, dyledwr yw.
17Ynfydion a deillion; canys pa un sydd fwyaf, yr aur neu’r deml a sancteiddiodd yr aur?
18Ac pwy bynnag a dyngo myn yr allor, nid yw ddim; ond pwy bynnag a dyngo myn y rhodd y sydd arni, dyledwr yw.
19Deillion, canys pa un fwyaf, y rhodd neu’r allor y sy’n sancteiddio’r rhodd?
20Yr hwn, gan hyny, a dyngodd myn yr allor, tyngu y mae myn hi a myn yr oll y sydd arni;
21ac yr hwn a dyngodd myn y deml, tyngu y mae myn hi a myn yr Hwn sy’n preswylio ynddi;
22a’r hwn a dyngodd myn y nef, tyngu y mae myn gorseddfaingc Duw a myn yr Hwn sy’n eistedd arni.
23Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys degymmwch y mintys a’r anis a’r cwmin, a gadawsoch heibio y pethau trymmach o’r Gyfraith, barn a thrugaredd a ffydd: y rhai hyn yr oedd rhaid eu gwneuthur, a pheidio a gadael heibio y rhai hyny.
24Tywysogion deillion, y rhai sy’n hidlo’r gwybedyn, a’r camel a lyngcwch.
25Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys glanhau yr ydych y tu allan i’r cwppan a’r ddysgl, ac o’r tu mewn llawn ydynt o reibusrwydd ac anghymmedroldeb.
26Pharishead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddifewn i’r cwppan ac i’r ddysgl, fel yr elo y tu allan hefyd o hono yn lân.
27Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys tebyg ydych i feddau wedi eu gwynnu, y rhai oddiallan yn wir a edrychant yn dêg; ond oddimewn, llawn ydynt o esgyrn y meirw a phob aflendid.
28Felly chwithau hefyd oddiallan, yn wir, a edrychwch i ddynion yn gyfiawnion; ond oddimewn, gorlawn ydych o ragrith ac anghyfraith.
29Gwae chwi, ysgrifenyddion a Pharisheaid, ragrithwyr, canys adeiledwch feddau’r prophwydi, ac addurnwch feddgorau’r cyfiawnion,
30a dywedwch, Pe buasem yn nyddiau ein tadau, ni fuasem gyfranogion â hwynt yngwaed y prophwydi.
31Felly y tystiolaethwch i’ch hunain, mai meibion ydych i’r rhai a laddasant y prophwydi.
32A bydded i chwi gyflawni mesur eich tadau.
33Seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y diengech rhag barn Gehenna.
34Am hyn, wele, Myfi wyf yn danfon attoch brophwydi a doethion ac ysgrifenyddion: rhai o honynt a leddwch ac a groeshoeliwch; a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich sunagogau,
35ac a erlidiwch o ddinas i ddinas, fel y delo arnoch yr holl waed cyfiawn a dywalltwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y cyssegr a’r allor.
36Yn wir y dywedaf wrthych, Daw y pethau hyn oll ar y genhedlaeth hon.
37Ierwshalem, Ierwshalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi,
Ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd attat,
Pa sawl gwaith y mynnais gasglu ynghyd dy blant,
Yn y modd y cyd-gasgl giar ei chywion dan ei hadenydd, ac ni fynnech!
Wele, gadewir i chwi eich tŷ yn anghyfannedd, canys dywedaf wrthych,
Myfi ni welwch ddim o hyn allan, nes dweyd o honoch,
Bendigedig yw’r Hwn sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.