Iöb 33 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XXXIII.

1Ond clyw, attolwg, Iöb, fy ymadroddion,

A’m holl eiriau clustymwrando di:

2Wele yn awr agorais fy ngenau,

Llefaru y mae fy nhafod yn nhaflod fy ngenau;

3Cywirdeb fy nghalon (yw) fy ngeiriau,

A gwybodaeth fy ngwefusau hwy a’i glân-adroddant:

4Yspryd Duw a’m gwnaeth i,

Ac anadl yr Hollalluog sy’n fy mywioccâu.

5Os gelli, atteb fi,

Trefna dy hun, o’m blaen-ymorsaf:

6 Wele myfi o’r un fath â thydi gyda Duw,

O’r clai y naddwyd finnau;

7Wele fy arswyd ni ’th ddychryna,

A’m baich arnat ni bydd drwm.

8Yn ddïau dywedaist yn fy nghlyw,

A llais dy ymadroddion a glywais i,

9(Sef) “Pur myfi, heb gamwedd;

Glân myfi, nid (oes) annuwioldeb gennyf;

10Wele, ymddïeithradau yn fy erbyn a gais Efe;

Fy nghyfrif y mae Efe yn elyn Iddo;

11Gosododd fy nhraed yn y cyffion,

Carcharodd fy holl lwybrau:”

12Wele, o ran hyn nad wyt gyfiawn, attebaf i ti,

Canys mwy yw Duw na dyn:

13Paham yn Ei erbyn Ef yr ymrysoni?

Canys i holl eiriau (dyn) nid ettyb Efe;

14Ond mewn un modd y llefara Duw,

Ac mewn dau, heb (i ddyn) ei ystyried,

15 (Sef) trwy freuddwyd, gweledigaeth y nos,

Pan syrthio trymgwsg ar ddynion,

Yn yr hepian ar wely;

16Yna yr egyr Efe glustiau dynion,

Ac ar eu cerydd hwynt y gesyd Efe insel,

17Er mwyn peri i ddyn encilio oddi wrth ei (ddrwg) weithred,

A chuddio balchder oddi wrth wr,

18Er mwyn attal ei enaid ef rhag distryw,

A’i hoedl ef rhag myned ymaith o honi trwy’r Ac fe argyhoeddir (dyn) trwy gystudd ar ei wely,

A chynheu ei esgyrn yn barhäus;

20Ac fe ffïeiddia ei fywyd ef fara,

A’i enaid ef fwyd dymunol;

21Derfydd ei gnawd ef fel na’i gwelir,

Ac yn anghyhyrawl yr â ei esgyrn (y rhai) ni welid;

22Agos i ddistryw yw ei enaid,

A’i fywyd i’r (angylion) dinystriol.

23 Os bydd iddo gennad, lladmerydd,

Un o fil,

I adrodd i ddyn ei iawn ffordd,

24Ac iddo Ef fod yn raslawn wrtho, a dywedyd,

“Gollwng ef rhag disgyn o hono i ddistryw,

Cefais iawn,”

25Tirfach fydd ei gnawd ef na bachgen,

Dychwel a wna efe i ddyddiau ei ieuengctid,

26A gweddïo ar Dduw ac Efe fydd boddlon iddo,

Ac a wna iddo edrych ar Ei wyneb Ef â gorfoledd,

Ac a ddychwel i’r adyn ei gyfiawnder;

27Yntau a gan yngwydd dynion ac a ddywaid,

“Pechais, a’r hyn oedd uniawn a ŵyrais i,

Ac nid y cyfartal a ddigwyddodd i mi,

28Efe a ollyngodd fy enaid rhag mudo i ddistryw,

A’m bywydd sydd yn edrych ar y goleuni:”

29Wele hyn oll a wna Duw

Ddwywaith — teir gwaith, â dyn,

30I ddychwel ei enaid ef o ddistryw,

Er mwyn iddo ddisgleirio yngoleuni bywyd.

31Gwrando, Iöb, clyw fi,

Taw, a myfi a lefaraf;

32Od oes ymadroddion (gennyt), atteb fi,

Llefara, canys da fyddai gennyf dy gyfiawnhâd;

33Os nad (oes), gwrando di arnaf fi;

Taw, a dysgaf i ti ddoethineb.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help