Diarhebion 19 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XIX.

1Gwell y tlawd, yn rhodio yn ei uniondeb,

Na’r traws ei wefusau, ac yntau yn ffol.

2Hefyd, yn anwybodaeth yr enaid nid (oes) da,

A’r brysiog (ei) draed a fetha.

3Ffolineb dyn a ddadymchwel ei ffordd ef,

Ac yn erbyn Iehofah yr ymddigia ei galon.

4Golud a chwannega gyfeillion lawer,

Ond yr anghenus, oddi wrth ei gyfaill y gwahenir ef.

5Tyst gau ni ddïeuogir,

Ac anadlwr celwyddau ni ddïangc.

6Llawer a wenieithiant i wyneb yr hael,

A phawb (fydd) gyfaill i’r gwr rhoddfawr.

7Holl frodyr y tlawd a’i casânt ef,

Pa faint mwy y gwna ei gyfeillion ymbellhâu oddi wrtho?

— — — — — —

myned heibio i gamwedd.

12Fel rhuad llew (y mae) llid brenhin,

Ond fel gwlith ar laswellt (y mae) ei ffafr.

13Trallod i’w dad (yw) mab ynfyd,

Ond defni parhäus (yw) ynrysonnau gwraig.

14Tŷ a chyfoeth (sydd) etifeddiaeth tadau,

Ond oddi wrth Iehofah (y mae) gwraig synhwyrol.

15Syrthni a ddwg i lawr drymgwsg,

Ac enaid llaesawl a newyna.

16A gadwo ’r gorchymyn a geidw ei enaid,

A anystyrio ei ffordd a roddir i farw.

17Rhoddi echwyn i Iehofah (y mae) ’r graslawn i’r tlawd,

A’i gymmwynas a dâl Efe iddo.

18Cerydda dy fab, o herwydd y mae gobaith,

Ond ar ei ladd ef na ddod d’ewyllys.

19Y mawr (ei) lid a ddwg gospedigaeth,

Canys os achubi ef, etto trachefn y cei (wneud hyny).

20Gwrando gynghor, a derbyn gerydd,

Fel y byddech ddoeth yn dy amser dyfodol.

21Llawer bwriad (sydd) ynghalon dyn,

Ond cynghor Iehofah,—hwnnw a saif.

22 Dymuniad dyn (yw) ei drugaredd,

A gwell y tlawd na’r gwr celwyddog.

23Ofn Iehofah (sydd) i fywyd,

Yn ddiwall yr erys efe, heb ei ofwyo gan ddrwg.

24 Cudd y swrth ei law yn y ddysgl,

Ac at ei enau nid estyn efe hi.

25Gwatwarwr,—taraw ef, a’r ehud a aiff yn gall,

Ond cerydda ’r deallus, ac fe ddeall efe wybodaeth.

26A saräo (ei) dad,—a dröo allan (ei) fam,—

Mab gwaradwyddus a gwarthus (yw).

27 Paid, fy mab, â gwrando cerydd,

Er mwyn cyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.

28Tyst diras a watwar farn,

A genau ’r annuwiolion a lwngc anwiredd.

29Parod i watwarwyr (yw) cospedigaethau,

A phwyadau i gefn ynfydion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help