S. Ioan 17 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; ac wedi codi ei lygaid i’r nef, dywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda Dy Fab Di, fel y bo i’r Mab Dy ogoneddu Di.

2Fel y rhoddaist Iddo awdurdod ar bob cnawd, fel i’r cwbl a roddaist Iddo, y rhoddai iddynt fywyd tragywyddol.

3A hwn yw’r bywyd tragywyddol, sef adnabod o honynt Dydi yr unig wir Dduw, ac yr hwn a ddanfonaist, Iesu Grist.

4Myfi a’th ogoneddais Di ar y ddaear, gan gwblhau y gwaith a roddaist i Mi i’w wneuthur.

5Ac yr awr hon gogonedda Di Fyfi, O Dad, gyda Thi Dy hun, â’r gogoniant oedd Genyf, cyn nad oedd y byd, gyda Thi.

6Eglurais Dy enw Di i’r dynion a roddaist i Mi allan o’r byd; eiddot Ti oeddynt, ac i Mi y rhoddaist hwynt; a’th air a gadwasant.

7Yn awr y gwyddant am yr holl bethau, cynnifer ag a roddaist i Mi, mai oddi Wrthyt Ti y maent;

8canys yr ymadroddion a roddaist i Mi, a roddais iddynt, a hwy a’u derbyniasant, a chredasant mai Tydi a’m danfonaist I.

9Myfi a ofynaf drostynt hwy: nid tros y byd y gofynaf, eithr tros y rhai a roddaist i Mi, canys eiddot Ti ydynt.

10A’r eiddof Fi oll, eiddot Ti yw, a’th eiddot Ti yn eiddof Fi; a gogoneddwyd Fi ynddynt.

11Ac nid wyf mwyach yn y byd; ond y rhai hyn, yn y byd y maent; ac Myfi, Attat Ti yr wyf yn dyfod. Y Tad sancteiddiol, cadw hwynt yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi, fel y byddont yn un, fel Ninnau.

12Tra y bu’m gyda hwynt, Myfi a’u cedwais yn Dy enw yr hwn a roddaist i Mi; a gwarchedwais hwynt; ac nid un o honynt a gollwyd, oddieithr mab y golledigaeth, fel y bo i’r ysgrythyr ei chyflawni.

13Ac yn awr, Attat yr wyf yn dyfod: ac y pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd fel y bo ganddynt Fy llawenydd yn gyflawnedig ynddynt eu hunain.

14Myfi a roddais iddynt Dy air; ac y byd a’u casaodd hwynt gan nad ydynt o’r byd, fel nid wyf Finnau o’r byd.

15Ni ofynaf am gymmeryd o Honot hwynt o’r byd, eithr eu cadw rhag y drwg.

16O’r byd nid ydynt, fel nid wyf Finnau o’r byd.

17Sancteiddia hwynt yn y gwirionedd: Dy air Di, gwirionedd yw.

18Fel y danfonaist Fi i’r byd, Myfi hefyd a’u danfonais hwynt i’r byd.

19Ac er eu mwyn Myfi a sancteiddiaf Fy hun, fel y byddont hwy hefyd wedi eu sancteiddio mewn gwirionedd.

20Ac nid tros y rhai hyn yn unig y gofynaf, eithr tros y rhai hefyd a gredant Ynof trwy eu gair hwynt,

21ar iddynt oll fod yn un; fel yr wyt Ti, O Dad, Ynof Fi, a Myfi Ynot Ti, ar iddynt hwy hefyd fod Ynom, fel y bo i’r byd gredu mai Tydi a’m danfonaist I.

22Ac y gogoniant a roddaist i Mi, Myfi a’i rhoddais iddynt hwy, fel y byddont yn un, fel yr ydym Ninnau yn un:

23Myfi ynddynt hwy, a Thydi Ynof Fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn un, fel y gwypo’r byd mai Tydi a’m danfonaist I, ac y ceraist hwynt fel y ceraist Fyfi.

24O Dad, yr hyn a roddaist i Mi, ewyllysiaf, lle yr wyf Fi, iddynt hwythau hefyd fod ynghyda Mi, fel y gwelont Fy ngogoniant, yr hwn a roddaist i Mi oblegid caru o Honot Fi cyn seiliad y byd.

25Y Tad cyfiawn, y byd ni’th edwyn Di, ond Myfi a’th adwaen Di, ac y rhai hyn a wyddant mai Tydi a’m danfonaist I;

26ac hyspysais iddynt Dy enw, ac a’i hyspysaf, fel y bo i’r cariad, â’r hwn y ceraist Fi, fod ynddynt hwy, a Minnau ynddynt hwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help