1Gan hyny, a chenym y weinidogaeth hon, fel y trugarhawyd wrthym, nid ydym yn pallu;
2eithr ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn anfadrwydd, na thrin Gair Duw yn dwyllodrus, eithr trwy amlygiad y gwirionedd yn canmol ein hunain i bob cydwybod dynion yngolwg Duw.
3Ac os cuddiedig hefyd yw ein hefengyl, yn y rhai sy’n myned ar goll y mae yn guddiedig;
4yn y rhai, duw y byd hwn a ddallodd feddyliau y rhai digred, fel na thywynai arnynt lewyrch efengyl ogoneddus Crist, yr Hwn yw delw Dduw.
5Canys nid ni ein hunain yr ydym yn ein pregethu, eithr Crist Iesu yr Arglwydd, a ni ein hunain yn weision i chwi er mwyn yr Iesu.
6Canys Duw, yr Hwn a ddywedodd, “O dywyllwch goleuni a lewyrcha,” yw’r Hwn a lewyrchodd yn eich calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw yn wyneb Iesu Grist.
7Ond y mae genym y trysor hwn mewn llestri pridd, fel y bo rhagoroldeb y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.
8O bob parth y gwesgir arnom, eithr heb ein cyfyngu; wedi ein dyrysu, eithr nid yn ddiobaith;
9yn cael ein herlid, eithr heb ein gadael; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ddarfod am danom;
10peunydd yn cylch-arwain marweiddiad yr Iesu yn ein corph, fel y bo i fywyd yr Iesu hefyd ei amlygu yn ein corph,
11canys yn wastad nyni y sydd fyw a draddodir i farwolaeth er mwyn Iesu, fel y bo i fywyd yr Iesu ei amlygu yn ein cnawd marwol.
12Felly, angau sy’n gweithio ynom ni, ond bywyd ynoch chwi.
13Ond a chenym yr un yspryd ffydd, yn ol yr hyn sydd ysgrifenedig, “Credais, gan hyny y lleferais,” nyni hefyd ym yn credu, a chan hyny llefaru yr ydym;
14gan wybod y bydd i’r Hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu, ein cyfodi ninnau hefyd ynghydag Iesu,
15ac ein gosod gerbron ynghyda chwi; canys pob peth sydd er eich mwyn, fel y bo i’r gras, wedi amlhau trwy ddiolchgarwch y rhan fwyaf, ymhelaethu i ogoniant Duw.
16O herwydd hyny, nid ydym yn pallu; eithr os yw ein dyn oddi allan yn cael ei ddifetha, er hyny, ein dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd;
17canys ysgafnder presennol ein gorthrymder, yn ddirfawr a dirfawr, bwys tragywyddol gogoniant a weithia efe i ni,
18a ni nid yn edrych ar y pethau a welir, eithr ar y rhai na welir, canys y pethau a welir, am ryw amser y maent; ond y rhai na welir, tragywyddol ydynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.