Datguddiad 19 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ar ol y pethau hyn clywais fel llais mawr tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Halelwiah! Yr iachawdwriaeth a’r gogoniant a’r gallu,

2eiddo ein Duw ydynt, canys gwir a chyfiawn yw Ei farnau, canys barnodd y buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaear â’i phutteindra, canys dialodd waed Ei weision o’i llaw.

3Ac eilwaith y dywedasant, Halelwiah. Ac ei mwg sy’n myned i fynu yn oes oesoedd.

4Ac i lawr y syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain, a’r pedwar anifail, ac addolasant Dduw, yr Hwn sydd yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Amen; Halelwiah.

5A llais oddiwrth yr orsedd-faingc a ddaeth allan, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw, Ei holl weision, y rhai sydd yn Ei ofni, bychain a mawrion.

6A chlywais fel llais tyrfa fawr, ac fel swn dyfroedd lawer, ac fel swn tarannau cedyrn, yn dywedyd, Halelwiah! canys teyrnasu y mae yr Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog.

7Llawenychom a gorfoleddom a rhoddom y gogoniant Iddo; canys daeth priodas yr Oen,

8a’i wraig a’i parottodd ei hun: a rhoddwyd iddi ei gwisgo â lliain main disglair, a phur;

9canys y lliain main, cyfiawn weithredoedd y saint yw. A dywedodd wrthyf, Ysgrifena, Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu galw i swpper priodas Yr Oen. A dywedodd wrthyf, Y rhai hyn, geiriau gwir Duw ydynt.

10A syrthiais i lawr o flaen ei draed, i addoli ef; a dywedodd wrthyf, Gwel na wnelych hyn, canys cydwas â thi yr wyf, ac a’th frodyr y sydd a chanddynt dystiolaeth Iesu. Duw addola: canys tystiolaeth Iesu yw yspryd prophwydoliaeth.

11A gwelais y nef wedi ei hagoryd; ac wele, farch gwyn; ac yr Hwn yn eistedd arno yn alwedig Ffyddlawn a Gwir;

12ac mewn cyfiawnder y barna ac y rhyfela: ac Ei lygaid yn fflam dân; ac ar Ei ben, fitrau lawer; a Chanddo enw yn ysgrifenedig, yr hwn nid oedd neb yn ei wybod oddieithr Ef Ei hun;

13ac wedi Ei wisgo â gwisg wedi ei thaenellu â gwaed; a gelwir Ei enw, Gair Duw.

14A’r lluoedd y sydd yn y nef a’i canlynent ar feirch gwynion, ac am danynt liain main gwyn a phur.

15Ac o’i enau dyfod allan y mae cleddyf llym, fel ag ef y tarawai y cenhedloedd; ac Efe a’u bugeilia â gwialen haiarn: ac Efe a sathr gerwyn win llid a digofaint Duw Hollalluog;

16ac y mae Ganddo ar Ei wisg ac ar Ei forddwyd enw wedi ei ysgrifenu,

Brenhin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi.

17A gwelais angel yn sefyll yn yr haul: a gwaeddodd â llais mawr, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg ynghanol y nef, Deuwch; casgler chwi ynghyd i swpper mawr Duw,

18fel y bwyttaoch gnawd brenhinoedd, a chnawd milwriaid, a chnawd y cedyrn, a chig meirch a’r rhai sy’n eistedd arnynt, a chnawd pawb, rhyddion a chaethion hefyd, bychain a mawrion hefyd.

19A gwelais y bwystfil a brenhinoedd y ddaear a’u lluoedd wedi eu casglu ynghyd i wneuthur rhyfel â’r Hwn oedd yn eistedd ar y march, ac â’i lu.

20A chymmerwyd gafael yn y bwystfil, ac ynghydag ef yn y gau-brophwyd yr hwn a wnaeth yr arwyddion ger ei fron, â’r rhai yr arweiniodd ar gyfeiliorn y rhai a dderbyniasant nod y bwystfil, a’r rhai oedd yn addoli ei ddelw: yn fyw y bwriwyd hwy ill dau i’r llyn tân yn llosgi â brwmstan.

21A’r lleill a laddwyd â chleddyf yr Hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn a ddaeth allan o’i enau Ef; a’r holl adar gawsant eu gwala o’u cnawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help