S. Luc 21 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A chan edrych i fynu, gwelai y rhai yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa, a hwy yn oludog;

2a gwelodd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling;

3a dywedodd, Yn wir y dywedaf wrthych, Y weddw dlawd hon, mwy na’r oll a fwriodd hi;

4canys yr holl rai hyn, o’r hyn oedd dros ben ganddynt y bwriasant at y rhoddion, ond hyhi, o’i phrinder, yr holl fywyd a oedd ganddi a fwriodd hi.

5A rhai yn dywedyd am y deml, mai â meini teg ac offrymmau yr addurnwyd,

6dywedodd, Y pethau hyn, y rhai yr edrychwch arnynt, daw dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen yma, yr hwn ni ddattodir.

7A gofynasant Iddo, gan ddywedyd, Athraw, pa bryd, ynte, y bydd y pethau hyn? a pha beth yw’r arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddigwydd?

8Ac Efe a ddywedodd, Edrychwch na’ch arweinier ar gyfeiliorn; canys llawer a ddeuant yn Fy enw, gan ddywedyd, Myfi wyf y Crist, ac, Yr amser a nesaodd.

9Nac ewch ar eu hol. A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymmerwch fraw, canys rhaid sydd i’r pethau hyn ddigwydd yn gyntaf; eithr nid yn uniawn y mae’r diwedd.

10Yna y dywedodd wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas;

11a daeargrynfaau mawrion, ac mewn rhai lleoedd newyn a heintiau a fyddant, a phethau ofnadwy ac arwyddion mawrion o’r nef a fyddant.

12A chyn yr holl bethau hyn rhoddant eu dwylaw arnoch, ac y’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r sunagogau ac i garcharau, gan eich dwyn ger bron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos Fy enw.

13Digwydd i chwi yn dystiolaeth.

14Gosodwch, gan hyny, yn eich calonnau, i beidio â rhag-fyfyrio am eich amddiffyn eich hunain;

15canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb yr hon ni ellir ei gwrth-sefyll na’i gwrth-ddywedyd gan eich holl wrthwynebwyr.

16A thraddodir chwi hyd yn oed gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion; a marwolaeth a barant i rai o honoch.

17A byddwch yn gas gan bawb o achos Fy enw:

18ac am flewyn o’ch pen ni dderfydd ddim.

19Trwy eich amynedd yr ennillwch eich eneidiau.

20Ond pan weloch amgylchu Ierwshalem gan luoedd, yna gwybyddwch y nesaodd ei hanghyfanedd-dra;

21yna bydded i’r rhai yn Iwdea ffoi i’r mynyddoedd, ac i’r rhai yn ei chanol fyned allan; a’r rhai yn y maesydd, nac elont i mewn iddi,

22canys dyddiau ymweliad yw y rhai hyn, fel y cyflawner yr holl bethau a ysgrifenwyd.

23Gwae y beichiogion a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hyny, canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn;

24a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at yr holl genhedloedd, ac Ierwshalem fydd yn cael ei sathru gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y cenhedloedd.

25A bydd arwyddion yn yr haul a’r lleuad a’r ser, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn dyryswch gan ruad y môr a’r môr-gesyg,

26gyda llewygu o ddynion gan ofn a disgwyl am y pethau sy’n dyfod ar y byd, canys galluoedd y nefoedd a ysgydwir;

27ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmmwl gyda gallu a gogoniant mawr.

28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddigwydd, ymsythwch, a chodwch eich pennau, canys nesau y mae eich prynedigaeth.

29A dywedodd ddammeg wrthynt, Gwelwch y ffigysbren a’r holl brennau: pan flaguront yn awr,

30gan weled o honoch eich hunain y gwyddoch mai agos yn awr yw’r haf.

31Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch mai agos yw teyrnas Dduw.

32Yn wir y dywedaf wrthych nad aiff y genhedlaeth hon ddim heibio, hyd oni fydd i’r cwbl ddigwydd.

33Y nef a’r ddaear a ant heibio, ond y geiriau mau Fi, nid ant ddim heibio.

34Ond cymmerwch ofal rhag ysgatfydd y trymhaer eich calonnau chwi gan lythineb a meddwdod a gofalon y bywyd hwn, ac yn ddisymmwth ddyfod arnoch o’r dydd hwnw fel magl,

35canys daw ar bawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear.

36A gwyliwch bob amser, gan ddeisyfu y byddoch abl i ddiangc rhag y pethau hyn oll y sydd ar ddigwydd, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn.

37Ac yr oedd Efe, y dyddiau, yn y deml, yn dysgu; a’r nosau, gan fyned allan y llettyai ar y mynydd a elwir Mynydd yr Olewydd.

38A’r holl bobl a fore-gyrchent Atto yn y deml, i’w glywed Ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help