Psalmau 112 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

CXII.

1Molwch Iah!

Dedwydd y gwr a ofno Iehofah,

(Ac) yn Ei orchymynion Ef a ymhyfrydo ’n ddirfawr!

2Cadarn ar y ddaear fydd ei hâd ef,

—Cenhedlaeth yr uniawn rai a fendithir,—

3Cyfoeth a golud (fydd) yn ei dŷ,

—Cwyd, mewn tywyllwch, oleuni i’r uniawn rai,

—“Canys yn dragywydd nid ysgogir ef,

Coffadwriaeth tragywyddol fydd y cyfiawn;

7Rhag chwedl drwg nid ofna,

Disigl (yw) ei galon, yn ymddiried yn Iehofah;

8Sefydledig (yw) ei galon, nid ofna efe

Hyd oni syllo ar ei orthrymwyr;

9Haelionus yw, rhydd i’r anghenus rai,

Ei gyfiawnder a saif am byth,

Ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant:

10Yr annuwiol a wêl (hyn), ac a ddigia,

Ei ddannedd a ysgyrnyga efe, a diflanna;

Dymuniad yr annuwiolion a ddilëir!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help