1A bu pan orphenodd yr Iesu y geiriau hyn, yr ymadawodd o Galilea, ac y daeth i gyffiniau Iwdea, tu hwnt i’r Iorddonen,
2ac yn Ei ganlyn Ef yr oedd torfeydd mawrion; ac iachaodd Efe hwynt yno.
3A daeth Atto Pharisheaid, yn Ei demtio, a dywedyd, Ai cyfreithlawn yw i ddyn ollwng ymaith ei wraig am bob achos?
4Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd, Oni ddarllenasoch, i’r Hwn a’u gwnaeth o’r dechreu, yn wrryw ac yn fanyw y gwnaeth Efe hwynt.
5A dywedodd, Oblegid hyn yr ymedy dyn â’i dad ac â’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig,
6a byddant ill dau yn un cnawd; fel nad ydynt mwy yn ddau, eithr un cnawd ydynt. Yr hyn, gan hyny, y bu i Dduw ei gydgysylltu, na fydded i ddyn ei wahanu ef.
7Dywedasant Wrtho, Paham, ynte, y bu i Mosheh orchymyn rhoddi llythyr ysgar a’i gollwng hi ymaith?
8Dywedodd wrthynt, Mosheh, o herwydd eich calon-galedwch, a ganiattaodd i chwi ollwng ymaith eich gwragedd; ond o’r dechreu nid oedd felly.
9A dywedaf wrthych, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig oddieithr am odineb, ac a briodo un arall, godinebu y mae; ac a briodo un a ollyngwyd ymaith, godinebu y mae.
10Dywedodd Ei ddisgyblion Wrtho, Os felly y mae achos dyn gyda’i wraig, nid da yw priodi.
11Ac Efe a ddywedodd wrthynt, Nid pawb fedr dderbyn y gair hwn; eithr hwy i’r rhai y rhoddwyd.
12Canys y mae eunuchiaid, y rhai a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaed yn eunuchiaid gan ddynion; ac y mae eunuchiaid, y rhai a wnaethant eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Yr hwn a ddichon dderbyn, derbynied.
13Yna y dygpwyd Atto blant, fel y rhoddai Ei ddwylaw arnynt, ac y gweddïai; a’r disgyblion a’i dwrdiasant hwynt.
14Ond yr Iesu a ddywedodd, Gadewch i’r plant, ac na rwystrwch hwynt rhag dyfod Attaf; canys i’r cyfryw rai y perthyn teyrnas nefoedd.
15Ac wedi rhoddi Ei ddwylaw arnynt, aeth oddi yno.
16Ac wele, rhyw un wedi dyfod Atto, a dywedodd, Athraw, pa beth da a wnaf fel y caffwyf fywyd tragywyddol?
17Ac Efe a ddywedodd wrtho, Paham mai i Mi y gofyni ynghylch y da? Un yw y Da. Ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw y gorchymynion.
18Dywedodd yntau Wrtho, Pa rai? A’r Iesu a ddywedodd, “Ni leddi: Ni odinebi:
19Ni ladrattei: Ni ddygi au-dystiolaeth: Anrhydedda dy dad a’th fam:” a, “Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.”
20Dywedodd y gŵr ieuangc Wrtho, Yr holl rai hyn a gedwais.
21Pa beth etto sydd ar ol ynof? Dywedodd yr Iesu wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth dy feddiannau, a dyro i’r tlodion, a bydd genyt drysor yn y nef; a thyred, canlyn Fi.
22Ac wedi clywed o’r gŵr ieuangc yr ymadrodd, aeth ymaith yn drist, canys yr oedd a chanddo dda lawer.
23A’r Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf wrthych, Yn anhawdd y bydd i oludog fyned i mewn i deyrnas nefoedd.
24Ac etto y dywedaf wrthych,
Haws yw myned o gamel trwy grau nodwydd ddur
Na myned o oludog i mewn i deyrnas Dduw.
Ac wedi clywed o’r disgyblion, aruthr iawn fu ganddynt,
25gan ddywedyd, Pwy, gan hyny, a all fod yn gadwedig? A chan edrych arnynt, yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gyda dynion y mae hyn yn ammhosibl;
26ond gyda Duw pob peth sydd bosibl.
27Yna, gan atteb, Petr a ddywedodd Wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ganlynasom Di; pa beth, gan hyny, fydd i ni?
28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir y dywedaf wrthych, chwychwi, y rhai a’m canlynasoch, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y Dyn ar orseddfaingc Ei ogoniant, a eisteddwch, chwithau hefyd, ar ddeuddeg gorseddfaingc, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
29A phob un a’r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu blant, neu diroedd, er mwyn Fy enw I, y can cymmaint a dderbyn efe, a bywyd tragywyddol a etifedda.
30Ond llawer y sydd flaenaf fyddant olaf, ac yr olaf yn flaenaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.