1(Psalm) o eiddo Dafydd.
Nac ymennyna o herwydd drwgweithredwyr
Ac na chynfigenna wrth weithwyr anwiredd,
2Canys, fel glaswellt, ar frys y gwywant,
Ac fel gwyrddlysieuyn y darfyddant:
3Ymhydera ar Iehofah, a gwna dda,
(Ac felly) preswylia’r tir, a mwynhâ sicrwydd:
4Bydd â’th hyfrydwch yn Iehofah,
A rhydd Efe i ti ddymuniadau dy galon:
5Treigla dy ffordd ar Iehofah,
Ac ymhydera ynddo Ef; ac Efe a wna,
6Ac a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni,
A’th iawn achos fel hanner dydd:
7Bydd ddistaw wrth Iehofah, a disgwyl wrtho Ef,
Nac ymennyna o herwydd y llwyddianus ei ffordd,
O herwydd y dyn a wnelo ddrwg amcanion.
8 Paid â digofaint, ac ymad â chynddaredd,
Nac ymennyna,—yn ddïau, i wneuthur drwg (y mae hyny),—
9Canys gwneuthurwyr drygioni a dorrir ymaith,
Ond a ddisgwyliont wrth Iehofah, hwynt-hwy a berchennogant y tir:
10Etto ychydigyn, ac ymaith (y bydd) yr annuwiol,
Ac ardremi ar ei le ef, ond ymaith (y bydd) efe;
11Ond y llariaidd rai a berchennogant y tir,
Ac a ymhyfrydant gan lïaws tangnefedd.
12Pan amcano’r annuwiol yn erbyn y cyfiawn,
Ac yr ysgyrnygo arno â’i ddannedd,
13Iehofah a chwardd am ei ben ef,
Canys gwêl Efe mai dyfod y mae ei ddydd ef:
14Y cleddyf a dỳn yr annuwiolion, âc annelant eu bwa,
I gwympo’r llariaidd a digymmorth, i gyflafanu’r rhai uniawn eu ffordd,
15(Ond) eu cleddyf a â i’w calon eu hunain,
Ac eu bwäau a chwilfriwir.
16Da yr ychydig sydd gan y cyfiawn
Rhagor cyfoeth annuwiolion lawer,
17Canys breichiau’r annuwiolion a chwilfriwir,
Ond cynnal y cyfiawn rai (y mae) Iehofah:
18Gŵyr Iehofah ddyddiau y diniweid rai,
A’u hetifeddiaeth hwy, yn dragywydd y bydd hi;
19Ni wridant hwy yn amser drygfyd,
Ac yn nyddiau newyn y gorddigonir hwy.
20Yn ddïau, yr annuwiolion a gyfrgollir,
A gelynion Iehofah (fydd) fel tegwch y porfëydd,—
Darfyddant,—mewn mwg y darfyddant.
21Echwyna y mae’r annuwiol ond ni thâl adref,
Ond y cyfiawn sydd radlawn ac yn rhoddi,
22Canys y rhai bendigedig ganddo Ef a berchennogant y tir,
Ond y rhai melldigedig Ganddo a dorrir ymaith;
23Gan Iehofah y gwneir camrau’r gwr yn sefydlog,
Ac yn ei ffordd ef yr ymhyfryda Efe;
24Er iddo gwympo ni orchreinir ef,
Canys Iehofah a gynnal ei law:
25Ieuangc a fûm i, ac yn hên yr aethum,
Ond ni welais mo’r cyfiawn wedi ei adu,
Na’i hâd ef yn cardotta bara;
26Pob amser, rhadlawn efe ac yn rhoddi benthyg,
A’i had (sydd) i’w fendithio.
27Cilia oddi wrth ddrwg, a gwna dda,
A phreswylia (’r tir) yn dragywydd,
28Canys Iehofah a gâr uniondeb,
Ac ni edy Ei saint;
(Ond) y drygionus rai a ddistrywir yn dragywydd,
A hâd yr annuwiolion a dorrir ymaith:
29Y cyfiawn rai a berchennogant y tir,
Ac a breswyliant yn dragywydd ynddo;
30Genau’r cyfiawn a adrodd ddoethineb,
A’i dafod a draetha uniondeb,
31Deddf ei Dduw (sydd) yn ei galon,
Ni wegia’r un o’i gamrau:
32Pan wylio’r annuwiol ar y cyfiawn
Ac y chwilio am ei ladd,
33Iehofah nis gâd ef yn ei law,
Ac ni fwrw ef yn euog pan ei barner.
34Disgwyl wrth Iehofah, a chadw Ei ffordd Ef,
A dyrchafa Efe di fel y perchennogech y tir,
Wrth dorri ymaith yr annuwiol, y cei syllu ar (hynny):
35Gwelais yr annuwiol yn alluog arswydbair,
Ac yn ymledu fel (pren) gwyrddlas na fud-blanwyd,
36Ond heibio yr aeth (dyn), ac wele,—nid oedd efe (yno),
A cheisiais ef—ond nid oedd i’w gael.
37Dal sulw ar y diniweid, a sylla ar yr uniawn,
Fod hiliogaeth i’r gwr heddychlawn;
38Ond y troseddwyr a ddistrywir i gyd,
Hiliogaeth yr annuwiolion a dorrir ymaith:
39Gwaredigaeth y cyfiawn rai, oddi wrth Iehofah (y mae),
Eu hymddiffynfa Efe yn amser cyfyngder;
40Ac fe’u cymmorth Iehofah hwynt, a rhydd iddynt ddïangc,
Rhydd iddynt ddïangc rhag yr annuwiolion, a gweryd hwynt,
O herwydd ymnoddi o honynt ynddo Ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.