S. Matthew 16 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Ac wedi dyfod Atto, y Pharisheaid a’r Tsadwceaid, gan Ei demtio, a ofynasant Iddo ddangos iddynt arwydd o’r nef.

2Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Yr hwyr wedi dyfod y dywedwch, Tywydd teg, canys coch yw’r nef;

3A’r bore, Heddyw drycin, canys coch a phruddaidd yw’r nef. Gwyneb y nef, y gwyddoch pa sut i’w farnu, ond arwyddion yr amserau ni fedrwch.

4Cenhedlaeth ddrwg a godinebus, arwydd a gais hi, ac arwydd ni roddir iddi, oddieithr arwydd Iona. A chan eu gadael hwynt, yr aeth Efe ymaith.

5A’r disgyblion a ddaethant i’r lan arall, ac anghofiasant gymmeryd bara;

6a’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.

7A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Bara ni ddygasom.

8A’r Iesu, gan wybod hyn, a ddywedodd, Paham yr ymresymmwch yn eich plith eich hunain, y chwi o ychydig ffydd, am nad oes bara genych?

9Onid ydych etto yn deall, nac yn cofio pum torth y pum mil, a pha sawl basgedaid a gawsoch?

10na saith torth y pedair mil, a pha sawl cawellaid a gawsoch?

11Pa sut nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, Ond “ymofalwch rhag surdoes y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.”

12Yna yr amgyffredasant na ddywedasai iddynt ymofalu rhag surdoes bara, eithr rhag dysgad y Pharisheaid a’r Tsadwceaid.

13Ac wedi dyfod o’r Iesu i dueddau Cesarea Philippi, gofynodd i’w ddisgyblion, gan ddywedyd, Pwy y dywaid dynion fod Mab y Dyn?

14A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddiwr yw; ac eraill, Elias; ac eraill, Ieremiah neu un o’r prophwydi.

15Dywedodd wrthynt, Ond chwychwi, pwy y dywedwch Fy mod I?

16A chan atteb, Shimon Petr a ddywedodd, Tydi yw’r Crist, Mab y Duw byw.

17A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Dedwydd wyt, Shimon Bar-Iona, canys nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn i ti, eithr Fy Nhad yr Hwn sydd yn y nefoedd.

18Ac yr wyf Finnau hefyd yn dywedyd wrthyt ti, Tydi wyt Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf Fy eglwys I; a phyrth Hades ni orchfygant hi.

19Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaear, fydd wedi ei rwymo yn y nefoedd; a pha beth bynnag a ollyngech ar y ddaear, fydd wedi ei ollwng yn y nefoedd.

20Yna y gorchymynodd i’r disgyblion na ddywedent wrth neb mai Efe yw’r Crist.

21O hyny allan y dechreuodd yr Iesu ddangos i’w ddisgyblion fod yn rhaid Iddo fyned ymaith i Ierwshalem, a dioddef llawer gan yr henuriaid a’r arch-offeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, ac ar y trydydd dydd gyfodi.

22Ac wedi Ei gymmeryd Ef atto, Petr a ddechreuodd Ei ddwrdio Ef, gan ddywedyd, Trugarog fydded Wrthyt, Arglwydd; ni fydd hyn, er dim i Ti.

23Ac Efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn Fy ol I, Satan: tramgwydd wyt i Mi, canys nid synied pethau Duw yr wyt, eithr pethau dynion.

24Yna yr Iesu a ddywedodd wrth Ei ddisgyblion, Os yw neb yn ewyllysio dyfod ar Fy ol I, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned Fi:

25canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a’i cyll; a phwy bynnag a gollo ei fywyd o’m plegid I, a’i caiff.

26Canys pa beth y lleseir dyn, os y byd oll a ennillodd efe, a’i fywyd wedi myned yn ddirwy iddo? Neu pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei fywyd?

27Canys y mae Mab y Dyn ar fedr dyfod yngogoniant Ei Dad ynghyda’i angylion; ac yna y tâl Efe i bob un yn ol ei weithred.

28Yn wir y dywedaf wrthych, Y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma, y rhai nid archwaethant mo angau, nes gweled o honynt Fab y Dyn yn dyfod yn Ei deyrnas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help