1A gwelais arwydd arall yn y nef, mawr a rhyfeddol, saith angel a chanddynt saith bla, y rhai diweddaf, canys ynddynt hwy y gorphenwyd llid Duw.
2A gwelais fel pe bai fôr o wydr, yn gymmysg â thân, a’r gorchfygwyr oddiwrth y bwystfil, ac oddiwrth ei ddelw, ac oddiwrth rifedi ei enw, yn sefyll ar y môr gwydr, a chanddynt delynnau Duw.
3A chanu y maent gân Mosheh, gwas Duw, a chân Yr Oen, gan ddywedyd,
Mawr a rhyfeddol yw Dy weithredoedd, Arglwydd Dduw, yr Hollalluog;
Cyfiawn a gwir yw Dy ffyrdd, Brenhin yr oesoedd;
4Pwy nad ofna, Arglwydd, a gogoneddu Dy enw, canys yr unig Sanctaidd wyt,
Canys yr holl genhedloedd a ddeuant, ac a addolant ger Dy fron, canys Dy gyfiawnderau a amlygwyd.
5Ac ar ol y pethau hyn y gwelais, ac agorwyd teml tabernacl y dystiolaeth yn y nef;
6a daeth allan y saith angel y sydd a chanddynt y saith bla, allan o’r deml, wedi eu gwisgo â maen pur a disglair, ac wedi eu gwregysu am eu dwyfronnau â gwregysau aur.
7Ac un o’r pedwar anifail a roes i’r saith angel saith phiol aur, yn orlawn o lid Duw, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd.
8A gorlenwyd y deml o fwg oddiwrth ogoniant Duw, ac oddiwrth Ei allu; ac ni allai neb fyned i mewn i’r deml, nes gorphen o saith bla y saith angel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.