1Cân y graddau.
Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd!
O ba le y daw fy nghymmorth?
2—Fy nghymmorth (sydd) oddi wrth Iehofah,
Gwneuthurwr y nefoedd a’r ddaear!—
3Oni ad Efe i’th draed siglo?
Oni huna Dy Geidwad?
4—Wele, ni huna, ac ni chwsg
Ceidwad Israel!—
5Iehofah (yw) dy geidwad;
Iehofah (yw) dy gysgod ar dy ddeheulaw;
6Y dydd yr haul ni’th dery,
Na’r Gwel Gen. 31:40.lleuad y nos;
7Iehofah a’th geidw rhag pob drwg,
Ceidw Efe dy enaid;
8Iehofah a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad,
O’r pryd hwn, a hyd yn dragywydd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.