1Fy mab, fy noethineb erglyw di,
Ac at fy neall gogwydda dy glust,
2Fel y gwyliech ar bwyll,
Ac y cadwo dy wefusau wybodaeth,
3Canys mel a ddifera gwefusau ’r wraig nid yr eiddot,
A llyfnach nag olew (yw) taflod ei genau hi,
4Ond y diwedd â hi (sydd) chwerw fel y wermod,
Llym (yw) fel cleddyf daufiniog;
5Ei thraed hi yn disgyn i angau,
Ar annwn ei chamrau a gymmerant afael;
6Llwybr bywyd ni phwysa hi,
Crwydro y mae ei ffyrdd hi, ac nis gŵyr:
7Yr awr hon gan hynny, blant, gwrandêwch arnaf fi,
Ac na chiliwch oddi wrth eiriau fy ngenau;
8Pellhâ dy ffordd oddi wrthi hi,
Ac na nesâ at ddrws ei thŷ,
9Fel na roddych dy harddwch i ereill,
A ’th flynyddoedd i ’r creulon,
10Fel na orlanwer estroniaid â ’th nerth,
Nac (y bo) ’th lafur yn nhŷ un dïeithr,
11Ac i ti ruo yn dy ddiwedd
Yn narfodedigaeth dy gnawd a ’th gorph,
12A dywedyd o honot, “Pa fodd y cashëais athrawiaeth,
Ac argyhoeddiad, y bu i ’m calon ei ddirmygu,
13Ac na wrandewais ar lais fy hyfforddwyr,
Ac i ’m dysgawdwyr na ostyngais fy nghlust!
14O fewn ychydig y bûm ym mhob drwg
Ynghanol y gynnulleidfa a ’r gymmanfa!”
15 Yf ddyfroedd o ’th ddyfrgist dy hun,
A ffrydiau o ’th bydew dy hun;
16Yna y gorlifa dy ffynhonnau allan,
Yn yr heolydd brillion dyfroedd,
17(Ac) y byddant yn eiddot ti dy hun yn unig,
Ac nid yn eiddo dïeithriaid ynghyda thi:
18Bydded dy ffynnon yn fendigedig,
A llawenycha yng ngwraig dy ieuengctid:
19Yr ewig gariadus! a’r greigafr raslawn!
Bydded i ’w bronnau dy feddwi bob amser,
Yn ei chariad honcia beunydd!
20A phaham yr honci, fy mab, mewn gwraig nid yr eiddot,
Ac y cofleidi fynwes y ddïeithr?
21Canys ger bron llygaid Iehofah (y mae) ffyrdd dyn,
A ’i holl lwybrau ef (y mae) Efe yn eu pwyso;
22Ei anwiredd ei hun a fagla ’r annuwiol,
Ac mewn rhaffau ei bechod ei hun y dèlir ef;
23(Y dyn) hwn a fydd marw o ddiffyg athrawiaeth,
Ac yn amlder ei ffolineb yr honcia.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.