1Llawen-genwch, O gyfiawn rai, am Iehofah,
I’r cyfiawn rai gweddus yw mawl!
2Dïolchwch i Iehofah â’r delyn,
A’r nabl ddegtant cenwch Iddo!
3Cenwch i Iehofah gân newydd,
Perffeithiwch y taraw’r tannau yn soniarus!
4Canys uniawn (yw) gair Iehofah,
A’i holl weithrediadau Ef (sydd) mewn ffyddlondeb:
5Caru cyfiawnder ac iawn (y mae Efe),
O radlondeb Iehofah cyflawn yw’r ddaear!
6Trwy air Iehofah y nefoedd a wnaethpwyd,
A thrwy anadl Ei enau Ef eu holl luoedd hwynt;
7Yr Hwn a gasglodd ynghŷd ddyfroedd y môr megis clawdd,
Yr Hwn a roes y tonnau mewn trysorfëydd;
8Ofni Iehofah a wnelo’r holl ddaear,
Rhagddo Ef arswyded holl drigolion y byd;
9Canys Efe a ddywedodd,—a bu(’r peth),
Efe a orchymmynodd,—ac ymorsafodd.
10Iehofah a ddrylliodd gynghor y cenhedloedd,
A ddiddymmodd amcanion y bobloedd:
11Cynghor Iehofah, yn dragywydd y saif,
Amcanion Ei galon Ef yn oes oesoedd:
12O ddedwyddwch y genedl yr hon (sydd) ag Iehofah yn Dduw iddi,
Y bobl a ddewisodd Efe yn etifeddiaeth Iddo!
13O’r nefoedd yr edrychodd Iehofah,
Gwelodd holl feibion dynion,
14O drigfa Ei orsedd yr ardremiodd Efe
Ar holl drigolion y ddaear,
15Yr Hwn a luniodd eu calon hwynt i gyd,
Ac sy’n ystyried eu holl weithredoedd.
16Nid (oes) frenhin a waredir trwy amlder cadernid,
Y gwron nid achubir trwy amlder nerth;
17Twyllodrus beth (yw)’r march am waredigaeth,
Trwy amlder ei gadernid ni rydd efe ddïangc.
18Wele, llygad Iehofah (sydd) ar y rhai a’i hofnont Ef,
Y rhai a ddisgwyliont wrth Ei radlondeb,
19I achub eu henaid rhag angau,
Ac i’w dadebru mewn newyn:
20Ein henaid ni a ddisgwyl wrth Iehofah,
Ein Cymmorth ac ein Tarian (yw) Efe,
21Canys ynddo Ef y llawenycha ein calon,
Canys yn Ei enw sanctaidd Ef yr ymhyderwn.
22Bydded Dy radlondeb, O Iehofah, arnom,
Megis y disgwyliwn Wrthyt!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.