Psalmau 9 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

IX.

1I’r blaengeiniad ar mwth-labban. Psalm o eiddo Dafydd.

2Clodforaf Di, Iehofah, â ’m holl galon,

Mynegaf Dy holl ryfeddodau,

3Llawenychaf a gorfoleddaf ynot Ti,

Canaf Dy enw Di, O Oruchaf.

4Yn nychweliad fy ngelynion yn eu hol

Tramgwyddasant, a difawyd hwynt o’th flaen Di,

5Canys dygaist i ben fy marn a’m hachos,

Eisteddaist ar yr orsedd yn farnwr cyfiawn,

6Cystwyaist y bobloedd, distrywiaist yr annuwiol,

Eu henw a ddileaist yn dragywydd ac am byth;

7Am y gelyn—cwblhâwyd yr adfeiliau am byth,

A’i dinasoedd a ddiwreiddiaist,—darfu am eu coffa hwynt.

8Etto Iehofah a ymsedda yn dragywydd,

Sefydlodd Ei orseddfaingc i farn;

9Ac Efe a farn y byd mewn cyfiawnder,

Ac a rydd ddedfryd i’r bobloedd mewn uniondeb;

10A bydd Iehofah yn uchelfa i’r gorthrymedig,

Yn uchelfa yn amseroedd cyfyngder;

11Ac hyderus ynot Ti fydd y rhai a adwaenont Dy enw,

Na adewi y rhai a’th geisiont, O Iehofah.

12Canmolwch Iehofah, Preswylydd Tsïon,

Mynegwch ym mysg y bobloedd Ei weithredoedd Ef,

13Canys y Dialydd gwaed a’u cofiodd hwynt,

(Ac) nid anghofiodd Efe waedd y cystuddiol rai.

14Bydd raslawn wrthyf, Iehofah; gwel fy nghystudd gan fy nghaseion,

O fy Nyrchafydd o byrth angau,

15Fel y mynegwyf Dy foliant Di,

(Ac) ym mhyrth merch Tsïon y gorfoleddwyf yn Dy waredigaeth!

16Soddodd y bobloedd yn y pydew a’r a wnaethant,

Yn y rhwyd a guddiasant hwy y daliwyd eu traed;

17Amlygwyd Iehofah, barn a wnaeth Efe,

Yngwaith ei ddwylaw ei hun y maglwyd y drygionus. Higgaion. Selah.

18Ymchwelyd i annwn a gaiff y drygionus rai,

Yr holl genhedloedd, anghofwyr Duw,

19Canys nid am byth yr anghofir yr anghenog,

Gobaith y trueiniaid (ni) ddifâir yn dragywydd.

20Cyfod, Iehofah, nac ymgadarnhâed dyn,

Barner y cenhedloedd ger Dy fron Di;

21Gosod, O Iehofah, arswyd iddynt,

Gwybydded y cenhedloedd mai dynion hwynt hwy. Selah.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help