1Psalm o eiddo Dafydd.
O Iehofah, clyw fy ngweddi,
Dyro glust i’m hymbiliau,
Yn Dy ffyddlondeb erglyw fi,—yn Dy gyfiawnder!
2—Na ddos i farn â’th was,
O herwydd nid cyfiawn o’th flaen Di y bydd neb byw,—
3Canys erlidiodd y gelyn fy enaid,
Cymmriwiodd fy mywyd i’r ddaear,
Cyflëodd fi mewn tywyll-leoedd, fel y meirw er ys talm;
4A phallu ynof a wnaeth fy yspryd,
Ynof y synnodd fy nghalon;
5Cofiais y dyddiau gynt,
Myfyriais ar Dy holl waith,
Ar weithredoedd Dy ddwylaw y dyfn-feddyliaf;
6Lledais fy nwylaw Attat Ti,
Fy enaid, fel tir sychedig, a hiraethodd am Danat! Selah.
7Brysia, erglyw fi, O Iehofah,—nychodd fy yspryd,
Na chudd Dy wyneb oddi wrthyf,
Rhag y ’m cyffelyber i’r rhai a ddisgynasant i ’r bedd!
8Par i mi glywed yn fuan am Dy drugaredd,
Canys ynot Ti yr ymddiriedaf!
Par i mi wybod y ffordd y rhodiwyf,
Canys attat Ti y dyrchafaf fy enaid!
9Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O Iehofah,
I Ti y dirgel-ymddiriedais (fy achos)!
10Dysg fi i wneuthur Dy ewyllys,
Canys Tydi (yw) fy Nuw!
Dy yspryd daionus a’m tywyso ar dir uniawn!
11Er mwyn Dy enw, O Iehofah, y bywhêi fi,
Yn Dy gyfiawnder y dygi allan fy enaid o gyfyngder;
Ac yn Dy drugaredd y dinystri fy ngelynion,
Ac y difethi holl orthrymwyr fy enaid;
Canys myfi, Dy was Di (ydwyf)!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.