1I’r blaengeiniad. Awdl addysgiadol o eiddo Dafydd,
2pan ddaeth Doeg yr Edomiad a mynegi i Shawl, a dywedyd wrtho, “Daeth Dafydd i dŷ Ahimelec.”
3Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn?
—Trugaredd Duw, beunyddiol (yw)!
4Difrodaeth a ddychymmyg dy dafod,
Fel ellyn llym, O wneuthurwr twyll!
5Hoffi drygioni yr wyt rhagor daioni,
Celwydd rhagor traethu cyfiawnder. Selah.
6Hoffi pob geiriau distryw yr wyt,
O dafod twyllodrus!
7Duw hefyd a’th ddinystria dithau am byth,
A’th gipia, ac a’th rwyga allan o(’th) babell,
Ac a’th ddiwreiddia o dir y rhai byw: Selah.
8Ac fe wêl y cyfiawn rai ac ofnant (Dduw),
Ac am ei ben yntau y chwarddant (gan ddywedyd)
9“Wele’r gwr na osododd Dduw yn amddiffynfa iddo,
Ac a ymddiriedodd yn amlder ei olud,
A ymnerthodd drwy ei ddrygioni.”
10Ond myfi (wyf) fel olew-wŷdden werdd yn nhŷ Dduw,
Ymddiried yr wyf yn nhrugaredd Duw yn dragywydd a byth:
11Clodforaf Di yn dragywydd o herwydd gweithredu o Honot,
A disgwyliaf wrth Dy enw, canys da efe ger bron Dy saint.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.