1Pan ddaeth Israel o’r Aipht,
Tŷ Iacob oddi wrth bobl Iwdah yn gyssegr Iddo,
Israel yn llywodraeth Iddo!
3Y môr a welodd ac a ffôdd,
Yr Iorddonen a drôdd yn ol;
4Y mynyddoedd a lammasant fel hyrddod,
(A)’r bryniau fel ŵyn defaid.
5Beth (oedd) arnat, O fôr, am ffoi o honot,
O Iorddonen, am droi o honot yn ol,
6O fynyddoedd, am lammu o honoch fel hyrddod,
(Ac) O fryniau, fel ŵyn defaid?
7—O flaen yr Arglwydd, cryna, O ddaear,
O flaen Duw Iacob,
8Yr Hwn sy’n troi’r graig yn llyn dyfroedd,
(A)’r gallestr yn ffynhonnau dyfroedd!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.