1Yna yr attebodd Elihw a dywedodd,
2Gwrandêwch, o ddoethion, fy ymadroddion,
Ac, o rai deallus, clustymwrandêwch arnaf fi;
3 gelwydd?
Anaele (yw) ’r Yn rhodio ynghymdeithas gweithredwŷr anwiredd,
Ac yn myned gyda dynion annuwiol,
9 Canys dywedodd “Nid oes leshâd i wr
Yn ymhyfrydu o hono mewn cyfeillach gyda Duw;”
10Gan hynny, chwi ddynion deallus, gwrandêwch arnaf!
Pell oddi wrth Dduw fydded camwedd,
Ac oddi wrth yr Hollalluog anwiredd!
11Yn hytrach, gweithred daearolyn a dâl Efe iddo,
Ac yn ol ffordd dyn y gwna Efe iddo gael;
12Ac yn ddïau, Duw ni wna gamwedd,
A’r Hollalluog ni ŵyra ’r iawn achos.
13 Pwy a ymddiriedodd iddo Ef am y ddaear,
A phwy a roddes y byd i gyd (arno Ef i’w reoli)?
14 Pe gosodai Efe Ei galon arno Ei hun,
(Ac) Ei yspryd ac Ei anadl a gasglai Efe atto,
15Fe drengai pob cnawd ynghŷd,
A dyn i’r pridd a ddychwelai.
16 Od (oes ynot) ddeall, gwrando hyn,
Clust-ymwrando â llais fy ymadroddion.
17 Ai yr hwn sy’n cashâu barn a lywodraetha?
Ac ai ’r Cyfiawn, y Galluog, a ferni di yn anghyfiawn?
18(Ef), yr Hwn a ddywaid wrth frenhin “Diles,”
Ac “Anghyfiawn” wrth bendefigion,
19Yr Hwn ni dderbyn wynebau tywysogion,
Ac nid adnebydd y goludog o flaen y tlawd,
Canys gwaith Ei ddwylaw Ef (ydynt) hwy oll;
20Mewn amrant y trengant hwy,
Ac ar hanner nos y gorsiglir y bobl ac y mudant;
A dygir ymaith y cadarn, nid trwy law (dyn);
21Canys Ei lygaid Ef (sydd) ar ffyrdd dyn,
Ac ei holl gamrau ef a wel Efe:
22Nid (oes) dywyllwch, ac nid (oes) gysgod angeuaidd,
Fel yr ymguddio yno wneuthurwŷr annuwioldeb.
23 Nid dyn a ystyria Efe yn hir,
Fel y delo at Dduw mewn barn;
24Efe a ddryllia ’r cedyrn heb holiad,
Ac a esyd i fynu eraill yn eu lle hwynt,
25Am wybod o Hono eu gweithredoedd hwy;
Ac Efe a’u dadymchwel y nos, a hwy a ddryllir,
26Am mai annuwiol (ydynt) Efe a’u tery
Ym mangre edrychwỳr,
27Am gilio o honynt oddi ar Ei ol Ef,
A’i holl ffyrdd Ef nad ystyrient hwy,
28Er mwyn dwyn atto Ef waedd y tlawd,
A gwaedd y cystuddiol iddo Ef ei chlywed:
29Pan fo Efe yn llonydd, pwy a’i barn Ef yn anghyfiawn?
A phan guddio Efe Ei wyneb, pwy gaiff Ei weled,
— Cystal yn erbyn cenedl ac yn erbyn dynion i gyd —
30Rhag teyrnasu o ddyn annuwiol,
O’r rhai sy’n maglu ’r bobl?
31Canys a ddywaid efe wrth Dduw
“Derbyniais (gospedigaeth), ni lygraf (fy ffyrdd mwy);
32Yr hyn na welwyf dysg Dydi fi,
Os drygioni a wnaethum, ni chwanegaf?”
33Ai yn ol dy feddwl di yr attâl Efe hynny,
Am i ti wrthod, am i dydi ddewis, ac nid Myfi?
Ond yr hyn a wyddost ti, llefara di (ef).
34Y dynion deallus sy’n dywedyd wrthyf,
A’r gwr doeth ag sy’n fy ngwrando,
35“Iöb a lefarodd â diffyg gwybodaeth,
A’i eiriau nid (oeddynt) mewn dyspwyll.”
36O na phrofer Iöb hyd y diwedd
Am yr attebion ymhlith dynion annuwiol,
37Canys chwanegodd at ei bechod gamwedd,
Yn ein plith ni y gwatworodd efe,
Ac yr amlhäodd efe ei eiriau yn erbyn Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.