1Yn y dyddiau hynny y clafychodd Hezecïah hyd farw; a daeth atto Eshaiah, mab Amots, y prophwyd, a dywedodd wrtho, Fel hyn y dywed Iehofah, Dyro orchymyn am dy dŷ, canys marw fyddi ac ni byddi byw.
2Yna y troes Hezecïah ei wyneb at y pared a gweddiodd at Iehofah,
3a dywedodd, Yn awr, O Iehofah, cofia, attolwg, am yr hyn a rodiais ger Dy fron Di mewn gwirionedd ac â chalon berffaith, a’r hyn (oedd) yn dda yn Dy lygaid, am i mi ei wneuthur. A wylodd Hezecïah â wylofain mawr.
4Yna y bu gair Iehofah wrth Eshaiah gan ddywedyd,
5Dos.
dy ol], a dywed wrth Hezecïah, Fel hyn y dywed Iehofah, Duw Dafydd dŷ dad; Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau; wele chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac o law brenhin Assyria y ’th waredaf di a’r ddinas hon; a Mi a ddiffynaf y ddinas hon.22A
7A dywedodd Eshaiah Hyn (fydd) i ti yn arwydd oddi wrth Iehofah, y gwna Iehofah y gair hwn, yr hwn a lefarodd Efe:
8Wele Fi yn dychwelyd cysgod y graddau y’r hwn a ddisgynodd yn neial Ahaz gyda ’r haul yn ei ol, sef deg o raddau. Felly dychwelodd yr haul ddeg o raddau ar hŷd y graddau y disgynasai ar hŷd-ddynt.
21[A dywedodd Eshaiah Cymmerant swp o ffigys. A hwy a’u briwiasant ac a’u dodasant ar y cornwyd, ac efe a adfywiodd.]
9 Ysgrifen Hezecïah Brenhin Iwdah, Pan Glafychasai, Ac Adfywio O Hono o’i Glefyd.
10Myfi a ddywedais,
Yng nghanol fy nyddiau yr âf drwy byrth y bedd,
Difeddianwyd fi o weddill fy nyddiau.
11Dywedais, ni chaf weled Iehofah yn nhir y rhai byw,
Ni chaf weled dyn mwyach gyda thrigolion y byd.
12Fy nhrigfa a ddygpwyd ymaith, ac a symmudwyd oddi wrthyf fel pabell bugail,
Torrwyd 『2fy hoedl』 『1megis gan wehydd,』 oddi wrth yr eddi y’m tyr ymaith.
O (dorriad) dydd hyd nos y gwnei ben am danaf.
13Tebyg oeddwn, hyd y bore, i lew;
Felly y drylliodd Efe fy holl esgyrn.
O (dorriad) dydd hyd nos y gwnei ben am danaf.
14Fel gwennol gylchdroawg, felly trydar a wnaethum;
Griddfenais fel colommen;
Pallodd fy llygaid gan edrych i fynu.
O Arglwydd, gorthrymder (a fu) arnaf: bydd fechniydd drosof.
15Beth a ddywedaf? canys rhoddes air i mi, ac Efe a’i gwnaeth;
Myfyriaf fy holl flynnyddoedd ar chwerwder fy enaid.
16Arglwydd, trwy hyn yr ydys yn byw, ac y mae bywyd fy yspryd;
Ti a’m hiachëaist, ti a’m bywhëaist:
17Wele, yn heddwch y newidiwyd i mi fy chwerwedd;
A Thydi mewn cariad a waredaist fy enaid rhag trengi o hono,
Canys teflaist o’r tu ol i’th gefn fy holl bechodau.
18Canys nid y bedd a’th fawl Di, (nid) angau a’th glodfora,
Nid ystyria y rhai sy’n disgyn i’r pwll Dy wirionedd:
19Y byw, y byw, efe a’th fawl Di, fel myfi heddyw;
Y tad i’r plant a hyspysa Dy wirionedd.
20 Iehofah (a fu) yn Iachawdwr i mi,
Am hynny fy nghaniadau a ganwn ar y tannau
Holl ddyddiau ein heinioes yn nhŷ Iehofah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.