1Cân y graddau.
Gwyn fyd pob un a’r sy’n ofni Iehofah,
A’r sy’n rhodio yn ei ffyrdd Ef!
2Llafur dy ddwylaw, yn ddiau y’i bwytti,
Gwyn dy fyd, a da (fydd) i ti;
3Dy wraig (fydd) fel gwinwydden ffrwythlawn
Yn nghelloedd dy dŷ,
Dy blant fel planhigion olew-wydd
O amgylch dy ford!
4Wele mai fel hyn y bendithir y gwr
A’r sy’n ofni Iehofah!
5Bendithied Iehofah di o Tsïon!
A gwelych ddaioni Ierwshalem
Holl ddyddiau dy einioes,
6A gwelych blant dy blant!
Tangnefedd (a fo) ar Israel!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.