S. Ioan 19 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1Yna, gan hyny, y cymmerodd Pilat yr Iesu, a fflangellodd Ef.

2A’r milwyr, wedi plethu coron o ddrain, a’i gosodasant ar Ei ben Ef; a chochl burpur a roisant am Dano;

3a daethant Atto, a dywedasant, Henffych well, Brenhin yr Iwddewon; a rhoisant Iddo gernodiau.

4A myned allan trachefn a wnaeth Pilat, a dywedodd wrthynt, Wele, Ei ddwyn Ef allan attoch yr wyf, fel y gwypoch nad wyf yn cael Ynddo ddim bai.

5Aeth yr Iesu, gan hyny, allan, yn gwisgo y goron ddrain a’r gochl burpur. A dywedodd Pilat wrthynt, Wele y dyn.

6Gan hyny, pan welodd yr archoffeiriaid a’r gweinidogion Ef, bloeddiasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia; croes-hoelia Ef. Dywedyd wrthynt a wnaeth Pilat, Cymmerwch chwi Ef, a chroes-hoeliwch; canys nid wyf fi yn cael Ynddo fai.

7Atteb iddo a wnaeth yr Iwddewon, Nyni sydd a Chyfraith genym; ac yn ol y Gyfraith dylai farw, am mai Mab Duw y gwnaeth Efe Ef Ei hun.

8Gan hyny, pan glywodd Pilat yr ymadrodd hwn, mwy yr ofnodd;

9ac aeth i mewn i’r llys drachefn, a dywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt Ti?

10A’r Iesu ni roddes atteb iddo. Dywedyd, gan hyny, Wrtho a wnaeth Pilat, Ai wrthyf fi na leferi? Oni wyddost fod genyf awdurdod i’th ollwng yn rhydd, a bod genyf awdurdod i’th groes-hoelio?

11Atteb iddo a wnaeth yr Iesu, Ni fuasai genyt ddim awdurdod yn Fy erbyn, oni bai ei rhoddi i ti oddi uchod: o achos hyn, yr hwn a’m traddodes i ti sydd â phechod mwy arno.

12O hyny allan, ceisiodd Pilat Ei ollwng Ef yn rhydd; ond yr Iwddewon a waeddasant, gan ddywedyd, Os Hwn a ollyngi yn rhydd, nid wyt gyfaill i Cesar. Pob un y sy’n gwneuthur ei hun yn frenhin, dywedyd yn erbyn Cesar y mae.

13Pilat, gan hyny, wedi clywed y geiriau hyn, a ddug allan yr Iesu, ac eisteddodd ar y frawd-faingc yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebraeg, Gabbatha.

14A Pharottoad y Pasg oedd hi; ac ynghylch y chweched awr; a dywedodd efe wrth yr Iwddewon, Wele eich Brenhin.

15Gan hyny y bloeddiasant hwy, Ymaith ag Ef; ymaith ag Ef; croes-hoelia Ef. Wrthynt y dywedodd Pilat, Ai eich Brenhin a groes-hoeliaf? Attebodd yr archoffeiriaid, Nid oes genym frenhin oddieithr Cesar.

16Yna, gan hyny, y traddododd Ef iddynt i’w groes-hoelio.

17Gan hyny y cymmerasant yr Iesu. A chan ddwyn y groes Iddo Ei hun, yr aeth Efe allan i’r lle a elwir Lle’r benglog,

18yr hyn a elwir yn Hebraeg, Golgotha; lle y croes-hoeliasant Ef, ac ynghydag Ef ddau eraill, un o bob tu, a’r Iesu yn y canol.

19Ac ysgrifenodd Pilat ditl, a dododd ef ar y groes: ac yr oedd yn ysgrifenedig,

Iesu y Natsaread, Brenhin yr Iwddewon.

20Y titl hwn, gan hyny, llawer o’r Iwddewon a ddarllenasant, canys agos i’r ddinas oedd y lle y croes-hoeliwyd yr Iesu; ac yr oedd yn ysgrifenedig yn Hebraeg, yn Lladin, ac yn Groeg.

21Gan hyny, wrth Pilat y dywedodd archoffeiriaid yr Iwddewon, Nac ysgrifena Brenhin yr Iwddewon, eithr mai Efe a ddywedasai, Brenhin yr Iwddewon ydwyf.

22Attebodd Pilat, Yr hyn a ’sgrifenais a ’sgrifenais.

23Y milwyr, gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant Ei ddillad, a gwnaethant bedair rhan, i bob milwr ran, ac Ei bais: ac yr oedd y bais yn ddiwnïad, wedi ei gwau o’r cwr uchaf trwyddi oll.

24Dywedasant, gan hyny, wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, eithr bwriwn goel-brennau am dani, eiddo pwy fydd hi, fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni, yr hon a ddywaid,

“Rhannu fy nillad y maent yn eu mysg,

Ac ar fy ngwisg yn bwrw coelbren.”

25Y milwyr, gan hyny, a wnaethant y pethau hyn. A safai wrth groes yr Iesu, Ei fam, a chwaer Ei fam, Mair gwraig Cleophas, a Mair Magdalen.

26Yr Iesu, gan hyny, gan weled Ei fam, a’r disgybl a garai Efe, yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth Ei fam, O wraig, wele dy fab.

27Gwedi’n y dywedodd wrth y disgybl, Wele, dy fam; ac o’r awr honno allan y cymmerodd y disgybl hi i’w gartref.

28Gwedi’r pethau hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr, a ddywedodd, Sychedaf.

29Llestr oedd yn gorwedd yno, llawn o finegr; wedi rhoddi ysbwng llawn o’r finegr, ynghylch isop, dodasant ef wrth Ei enau.

30Gan hyny, pan gafodd yr Iesu y finegr, dywedodd, Gorphenwyd; a chan ogwyddo Ei ben, rhoddes i fynu yr yspryd.

31Yr Iwddewon, gan hyny, gan mai’r Parottoad ydoedd, fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y Sabbath, (canys mawr oedd dydd y Sabbath hwnw), a ofynasant i Pilat am gael torri eu hesgeiriau hwynt, a’u tynnu i lawr.

32Gan hyny, daeth y milwyr, ac esgeiriau y cyntaf a dorrasant,

33ac eiddo’r llall a groes-hoeliasid gydag Ef; ac wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant Ef wedi marw eisoes, ni thorrasant Ei esgeiriau Ef;

34eithr un o’r milwyr, â gwayw-ffon, a wanodd Ei ystlys Ef, a daeth allan, yn uniawn, waed a dwfr.

35A’r hwn a welodd a dystiolaethodd; a gwir yw ei dystiolaeth ef; ac efe a ŵyr mai gwir a ddywaid efe, fel y bo i chwithau hefyd gredu;

36canys digwyddodd y pethau hyn fel y byddai i’r ysgrythyr ei chyflawni,

“Asgwrn o Hono ni thorir:”

37ac etto ysgrythyr arall a ddywaid,

“Edrychant ar yr Hwn a wanasant.”

38Ac ar ol y pethau hyn, Ioseph o Arimathea, ac yntau yn ddisgybl i’r Iesu, ond yn guddiedig rhag ofn yr Iwddewon, a ofynodd i Pilat am gael dwyn ymaith gorph yr Iesu; a chaniattaodd Pilat. Daeth efe, gan hyny, a dug ymaith Ei gorph Ef.

39A daeth Nicodemus hefyd, yr hwn a ddaethai Atto liw nos yn gyntaf, gan ddwyn cymmysg o fyrr ac aloes, ynghylch can pwys.

40Cymmerasant, gan hyny, gorph yr Iesu, a rhwymasant ef â llieiniau ynghyda’r aroglau, fel y mae arfer yr Iwddewon ar gladdu.

41Ac yr oedd yn y fan lle y croes-hoeliwyd Ef ardd; ac yn yr ardd fedd newydd, yn yr hwn ni ddodasid neb etto.

42Yno, gan hyny, o achos Parottoad yr Iwddewon, gan mai agos oedd y bedd, y rhoddasant yr Iesu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help