I. Corinthiaid 6 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

1A feiddia neb o honoch a chanddo fatter yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?

2Oni wyddoch mai y saint a farnant y byd? Ac os genych chwi y bernir y byd, ai annheilwng ydych i farnu’r pethau lleiaf?

3Oni wyddoch mai angylion a farnwn? Llawer mwy, ynte, bethau yn perthyn i’r bywyd hwn.

4Gan hyny, os pethau yn perthyn i’r bywyd hwn sydd genych i’w barnu, ai y rhai a gyfrifir yn ddiddym yn yr Eglwys, ai y rhai hyn yr ydych yn eu rhoddi ar y faingc?

5Er codi cywilydd ynoch yr wyf yn dywedyd. Ai felly nad oes yn eich plith ddim un doeth yr hwn fydd abl i farnu rhwng ei frodyr,

6eithr brawd â brawd sy’n ymgyfreithio, a hyny o flaen y rhai digred?

7Weithian, yn wir, gan hyny, yn hollol diffyg yw ynoch fod genych gŵyn cyfraith â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef dwyn oddi arnoch?

8Eithr chwychwi sy’n gwneuthur cam ac yn dwyn oddiar, a hyny i frodyr.

9Oni wyddoch na fydd i anghyfiawnion etifeddu teyrnas Dduw? Na’ch dyger ar gyfeiliorn. Ni chaiff na godinebwyr, nac eulun-addolwyr,

10na thorrwyr priodas, na masweddwyr, na gwrryw-gydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na rheibusion, etifeddu teyrnas Dduw: a hyn fu rhai o honoch:

11eithr golchwyd chwi; eithr sancteiddiwyd chwi; eithr cyfiawnhawyd chwi yn enw yr Arglwydd Iesu Grist ac yn Yspryd ein Duw.

12I mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr nid pob peth yn llesol; i mi y mae pob peth yn gyfreithlawn, eithr arnaf fi nid awdurdodir gan ddim.

13Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd; ond Duw a ddiddyma ef a hwythau. A’r corph nid i odineb y mae, eithr i’r Arglwydd, ac yr Arglwydd i’r corph;

14a Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau hefyd trwy Ei allu.

15Oni wyddoch am eich cyrph mai aelodau i Grist ydynt? Gan gymmeryd, gan hyny, aelodau Crist, a wnaf fi hwynt yn aelodau puttain?

16Na atto Duw. Oni wyddoch am yr hwn sy’n ymgyssylltu â phuttain, mai un corph yw? “Canys bydd (medd Efe) y ddau yn un cnawd;”

17ond yr hwn sy’n ymgyssylltu â’r Arglwydd un yspryd yw.

18Ffowch oddiwrth odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’r corph y mae; ond yr hwn sy’n godinebu, yn erbyn ei gorph ei hun y mae yn pechu.

19Oni wyddoch fod eich corph yn deml i’r Yspryd Glân yr Hwn sydd ynoch, yr Hwn sydd genych oddiwrth Dduw? Ac nid ydych yn eiddoch eich hunain,

20canys prynwyd chwi er gwerth; gogoneddwch Dduw, gan hyny, yn eich corph.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help