1Gorchymyn yr wyf, gan hyny, yn gyntaf o bob peth, y gwneir ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bob dyn;
2tros frenhinoedd a phawb y sydd mewn goruchafiaeth, fel y treuliom fuchedd lonydd a thangnefeddus ym mhob duwioldeb a difrifoldeb.
3Hyn sydd ardderchog a chymmeradwy ger bron ein Hiachawdwr,
4Duw, yr Hwn a ewyllysia i bawb fod yn gadwedig, ac i wybodaeth y gwirionedd y delont.
5Canys un Duw sydd; un hefyd y cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Crist Iesu,
6yr Hwn a’i rhoddes Ei hun yn bridwerth dros bawb,
7y dystiolaeth yn ei hamseroedd ei hun, i’r hon y’m gosodwyd i yn gyhoeddwr ac apostol (y gwir yr wyf yn ei ddywedyd, nid wyf yn celwyddu,) yn ddysgawdwr y cenhedloedd mewn ffydd a gwirionedd.
8Mynnwn, gan hyny, weddïo o’r gwŷr ym mhob man, gan ddyrchafu dwylaw sanctaidd heb na digter na dadl;
9yr un modd i wragedd addurno eu hunain â dillad gweddus, gyda gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedig ac aur, nac â pherlau neu wisg werthfawr,
10eithr (yr hyn sy’n gweddu i wragedd yn proffesu duwioldeb) trwy weithredoedd da.
11Bydded i wraig ei dysgu mewn llonyddwch gyda phob gostyngeiddrwydd;
12ond athrawiaethu nid wyf yn caniattau i wraig, nac awdurdodi ar ŵr, eithr bod mewn llonyddwch;
13canys Adam oedd y cyntaf i’w lunio,
14yna Hefa; ac Adam ni thwyllwyd, ond y wraig, wedi ei thwyllo, oedd mewn trosedd;
15ond cadwedig fydd trwy ddwyn plant, os arhosant mewn ffydd a chariad a sancteiddrwydd ynghyda sobrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.