1Yna yr attebodd Iöb, a dywedodd,
2Clywais o’r fath hyn lawer o bethau:
Cysurwŷr blinadwy (ydych) chwi oll.
3 Oni (fydd) diwedd i eiriau gwỳntawg?
Neu, pa beth sy’n dy ennynu fel yr attebit (felly)?
4Myfi hefyd a fedrwn lefaru fel chwithau
Ped fai eich enaid chwi yn lle fy enaid i,
Medrwn gyssylltu ymadroddion i’ch erbyn,
A medrwn ysgwyd fy mhen arnoch chwithau,
5Medrwn eich cryfhâu a’m genau,
A thosturi fy ngwefusau a allai attal (eich gofid).
6Os llefaraf fi, nid ymettyl fy nolur;
Ac os peidiaf, pa beth (o hono) a ymedy oddi wrthyf?
7Yn ddïau, yn awr Efe a’m gorflinodd;
Diffeithaist fy holl Ei ddigllonedd Ef a’m rhwygodd ac a’m cynllwynodd,
Ysgyrnygodd arnaf â’i ddannedd;
Yn elyn i mi, fe flaenllymmodd Efe Ei Iygaid yn fy erbyn.
10 Efe a’m rhwygodd â rhwygiad ar rwygiad,
Rhedodd arnaf fel gwron.
15Sachlïain a wnïais i ar fy nghroen,
A dodais fy nghorn yn y llwch;
16Fy ngwyneb sydd wedi ei ennynu gan wylo,
Ac ar fy amrantau tywyllwch angeuaidd (sydd);
17Er nad oedd anghyfiawnder yn fy nwylaw,
A bod fy ngweddi yn ddihalog.
18O ddaear, na orchuddia fy ngwaed,
Ac na fydded lle i’m gwaedd!
19Hefyd yn awr, wele, yn y Nefoedd y mae fy Nhyst,
A’m Tystiwr yn yr uchelder:
20Gwawdwŷr i mi (yw) fy nghyfeillion;
Wrth Dduw y difera fy llygaid (ddagrau,)
21Am i (un) ymddadleu dros wr gyda Duw,
A (thros fab) daearolyn yn erbyn ei gyfaill;
22Canys ychydig flynyddoedd a ddeuant,
A llwybr, na ddychwelaf (ar hyd-ddo,) a rodiaf fi;
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.