Iöb 18 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

XVIII.

1Yna yr attebodd Bildad y Shwhiad, a dywedodd,

2 Pa hŷd y gosodwch chwi faglau am ymadroddion?

Byddwch ddeallus, a chwedi’n ni a lefarwn.

3 chwi?

4 Ai er dy fwyn di yr anghyfanneddir y ddaear,

Ac y symmudir y graig o’i lle?

5Ië, goleuni yr annuwiolion a ddiffydd,

Ac ni lewyrcha ffagl ei dân ef;

6Y goleuni a dywylla yn ei babell ef,

A’i lamp uwch ei ben ef a ddiffydd;

7Fe gyfyngir ei gamrau cadarn,

A chwyrn-dafla ei gynghor ei hun ef;

8Canys gyrrir ef i rwyd â’i draed,

Ac ar rwydwaith y rhodia efe;

9Fe ymeifl magl yn (ei) sawdl (ef),

Fe grafanga plethlinyn arno;

10Cuddiedig yn y ddaear (yw) ei hoenyn ef,

A’i yslepan ar y llwybr:

11Oddi amgylch y brawycha dychryniadau ef,

Ac a’i gyrrant ef yma ac acw, yn ei ysgil ef:

12Newynu (am dano ef) y mae ei anffawd,

A dinystr (sydd) barod am ei gwymp ef:

13Bwytta aelodau ei groen ef,

Bwytta ei aelodau, y mae cyntaf-anedig angau:

14Rhwygir ef allan o’i babell, ei hyder,

Ac (ei fraw) a’i haraf-arwain at frenhin dychryniadau;

15(Braw) a drig yn ei babell ef — nid (mwyach) yn eiddo iddo, —

Am ei ddydd ef fe synna ’r rhai i ddyfod,

A’r rhai o’u blaen hwy, echrys a ymeifl arnynt.

21Yn unig o’r fath hon (y bydd) trigleoedd y drygionus,

Ac o’r fath hon le’r hwn a ddiystyro Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help