1A bu, ar ddydd y daeth meibion Duw i ymorsafu ger bron Iehofah, y daeth hefyd Satan yn eu plith hwynt i ymorsafu ger bron Iehofah,
2a dywedodd Iehofah wrth Satan, “O ba le’r ydwyt ti yn dyfod:” ac attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “O ddarymred ar hŷd y ddaear, ac o ymrodio ynddi:”
3yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “A ddeliaist ti dy sulw ar Fy ngwas Iöb? canys nid (oes) fel efe ar y ddaear, gwr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni, ac etto yn dal at ei berffeithrwydd er i ti Fy annog I yn ei erbyn ef i’w andwyo yn ddïachos:”
4ac attebodd Satan i Iehofah a dywedodd, “Croen am groen, ac yr oll a’r (sydd) gan wr a rydd efe am ei einioes;
5eithr estyn, attolwg, Dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd ef, (ac) yn ddïau, i’th wyneb y cân efe yn iach i Ti.”
6Yna y dywedodd Iehofah wrth Satan, “Wele ef yn dy law di; ond, ei einioes ef, cadw di (hi).”
7Yna yr aeth Satan allan oddi ger bron Iehofah, ac a bläodd Iöb â chornwydydd drwg, o wadn ei droed hyd ei goryn;
8ac efe a gymmerth gragen i ymgrafu â hi, ac yntau yn eistedd ynghanol lludw.
9A dywedodd ei wraig wrtho, “Ai etto (yr wyt) ti yn dal at dy berffeithrwydd? Cân yn iach i Dduw, a bydd farw.”
10Yna y dywedodd efe wrthi, “Fel y llefarai un o’r gwragedd ynfydion, y lleferaist: ai y da a dderbyniwn ni oddi wrth Dduw, ac y drwg ni wnawn ei dderbyn?” Yn hyn i gyd ni phechodd Iöb a’i wefusau.
11A chlywodd tri chyfaill Iöb am yr holl ddrwg hwn a ddaethai arno, a daethant bob un o’i fangre ei hun, (sef) Eliphaz y Temaniad, a Bildad y Shwhiad, a Tsophar y Naamathiad, a chyttunasant i ddyfod i gyd-ofidio âg ef, ac i’w gysuro.
12A hwy a ddyrchafasant eu llygaid o bell ac nid adnabuont ef; a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant, ac a rwygasant bob un ei fantell, ac a daenasant lwch ar eu pennau tua ’r nefoedd:
13a hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith, ac nid oedd a ddywedodd wrtho air, canys gwelent mai mawr (oedd) ei ddolur yn odiaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.