Iöb 7 - Welsh Translation by Thomas Briscoe 1894 (New Testament, Job, Psalms, Proverbs and Isaiah, and selections from Genesis and Exodus)

VII.

1 Onid milwriaeth (sydd) i adyn ar y ddaear,

Ac fel dyddiau cyflog-ddyn, ei ddyddiau ef?

2Fel gwas y dyheua efe am gysgod,

Ac fel cyflog-ddyn y gobeithia efe am wobr ei waith:

3Felly, mi a gefais im’ fy hun fisoedd blinder,

A nosweithiau trallod a ranwyd i mi;

4Pan orweddwyf, y dywedaf “Pa bryd y codaf?”

A’r nos yn ymestyn, mi a orlenwir o ymluchiadau hyd y wawr:

5Gorchuddio fy nghnawd y mae pryfed a tholchau priddellaidd,

Fy nghroen sy’n cramenu ac a aiff yn ddiferlif:

6 Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd,

Ac yn darfod mewn ymbeidiad gobaith.

7Cofia, (O Dduw,) mai gwŷnt (yw) fy hoedl,

Nad adchwel fy llygad i weled daioni,

8Na thremia arnaf lygad y neb sydd yn fy ngweled i.

Dy lygad Di (sydd) arnaf ac nid wyf (mwy)!

9Darfod y mae cwmmwl ac yn myned ymaith,

Felly, yr hwn a ddisgyn i annwn nid esgyn (oddi yno),

10Ni ddychwel efe mwyach i’w dŷ,

A’i le nid adnebydd ef etto.

11Gan hynny myfi, ni warafunaf i’m genau,

Llefaraf ynghyfyngder fy yspryd,

Cwynaf yn chwerwder fy enaid.

12Ai môr myfi? Ai morfil (wyf),

Am i Ti osod arnaf wyliedydd?

13Pan ddywedwyf, “Fe gysura fy ngwely fi,

Esmwythâd fy nghwynfan fy ngorweddfa a rydd,”

14Yna y’m brawychi â breuddwydion,

Ac â gweledigaethau y’m dychryni;

15Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu,

(Ië) marwolaeth yn fwy na ’m hesgyrn:

16Ymdoddais, nid yn dragywydd y byddaf byw,

Paid â mi, canys tarth (yw) fy nyddiau.

17Pa beth (yw) dyn i Ti ei fawrhâu,

Ac i Ti roddi Dy feddwl arno,

18Ac ymweled ag ef bob bore,

A phob amrant ei brofi ef?

19Pa hŷd y byddi heb edrych oddi wrthyf,

Ac heb fy ngollwng tra y llyngcwyf fy mhoeryn?

20Os pechais, pa beth a wnaethum i Ti, Ardremiwr dyn?

Pa ham y gosodaist fi yn nôd i Ti,

Fel yr ydwyf i mi fy hun yn faich;

21A pha ham na faddeui fy nghamwedd,

Ac na fwri heibio fy anwiredd?

22Canys, yn awr, yn y llwch yr wyf ar fedr gorwedd,

A Thi a chwili am danaf, ond ni byddaf mewn bod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help