1I’r blaengeiniad. Ar yr islais. Psalm o eiddo Dafydd.
2Dyro iachawdwriaeth, O Iehofah! canys darfu ’r duwiol,
Canys pallodd ffyddlondeb o blith meibion dynion;
3Celwydd a lefarant hwy, bob un i ’w gymhar,
A gwefus wenieithus, â chalon ddau ddyblyg y llefarant hwy:
4Torred Iehofah ymaith holl wefusau gwenieithus,
Y tafod a lefaro fawriaith,
5Y rhai sy’n dywedyd, “A ’n tafodau yr ymgyssylltasom,
Ein gwefusau (sydd) gyda ni; pwy (sydd) feistr arnom ni?”
6“O herwydd trais y cystuddiol rai, o herwydd uchenaid yn anghenogion,
Yn awr y cyfodaf,” medd Iehofah,
“Rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn sy’n dyhëu am dani.”
7Geiriau Iehofah geiriau purion,
(Fel) arian a goethwyd yn y gweithdy o achos y pridd,
(Ac) a doddwyd seith-waith:
8Tydi, Iehofah, a’u cedwi hwynt,
Amddiffyni hwynt rhag y genhedlaeth hon yn dragywydd.
9O amgylch y mae ’r annuwiolion yn ymrodio,
Yn ol dyrchafiad gwaeledd ym mysg meibion dynion!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.