1Cân y graddau.
Attat Ti y dyrchafaf fy llygaid,
Y Gorseddawg yn y nefoedd!
2Wele, fel llygaid gweision ar law eu meistraid,
Fel llygaid llawforwyn ar law ei meistres,
Felly ein llygaid ni ar Iehofah, ein Duw,
Hyd oni bo Efe radlawn wrthym!
3Bydd radlawn wrthym, O Iehofah! bydd radlawn wrthym,
Canys yn ddirfawr y’n gorddigonwyd â dirmyg!
4Yn ddirfawr y gorddigonwyd ein henaid
A gwatwargerdd y trahäus rai,
A dirmyg y beilchion!
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.