1A gwelais angel cryf arall yn disgyn o’r nef, wedi ei wisgo â chwmmwl; a’r enfys oedd ar ei ben, a’i wyneb fel yr haul, ac ei draed fel colofnau o dân;
2ac a chanddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd: a gosododd ei droed dehau ar y môr, a’r aswy ar y tir;
3a gwaeddodd â llais mawr fel y mae llew yn rhuo; a phan waeddodd, adroddodd y saith daran eu lleisiau.
4A phan adroddodd y saith daran eu lleisiau, yr oeddwn ar fedr ysgrifenu, a chlywais lais o’r nef yn dywedyd, Selia y pethau a adroddodd y saith daran, ac nac ysgrifena hwynt.
5A’r angel, yr hwn a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tir, a gododd ei law ddehau i’r nef,
6a thyngodd i’r Hwn sydd yn byw yn oes oesodd, yr Hwn a greodd y nef a’r pethau sydd ynddi, a’r ddaear a’r pethau sydd ynddi, a’r môr a’r pethau sydd ynddo, Amser ni fydd mwyach;
7eithr yn nyddiau llais y seithfed angel, pan fo ar fedr udganu, yna y gorphenwyd dirgelwch Duw, fel yr efengylodd i’w weision Ei hun, y prophwydi.
8A’r llais yr hwn a glywais o’r nef, a glywais drachefn yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd, Dos, cymmer y llyfr sydd yn agored yn llaw yr angel y sy’n sefyll ar y môr ac ar y tir.
9Ac aethum at yr angel, gan ddywedyd wrtho roddi i mi y llyfr bychan. A dywedodd wrthyf, Cymmer a bwytta ef; a chwerwa efe dy fol di, eithr yn dy enau y bydd felus fel mel.
10A chymmerais y llyfr bychan allan o law’r angel, a bwytteais ef; ac yr oedd efe yn fy ngenau fel mel, yn felus; a phan fwyttaswn ef, chwerwyd fy mol.
11A dywedasant wrthyf, Y mae rhaid i ti drachefn brophwydo i bobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.